Dewislen
English
Cysylltwch

Gweithdai ysgrifennu creadigol i archwilio hunanfynegiant


Cyfranogwyr
: Unigolion BAME yng Nghaerdydd

Awduron/artistiaid: Beau W. Beakhouse a Sadia Pineda Hameed

Lleoliad: Canolfan Gymunedol Wyndham Street, Caerdydd

Gwybodaeth bellach: Trwy gyfres o weithdai yn ardaloedd Riverside a Grangetown, Caerdydd, bydd unigolion BAME lleol yn archwilio profiadau a hanesion eu hardaloedd a’r llefydd y buont yn byw, yna caiff y gwaith ei fynegi ar ffurf cyhoeddiad ar y cyd. Bydd seicogeograffeg, hunan-ffuglen, hanesion llafar a phrosesau curadu i gyd ar waith wrth i grŵp celfyddydol LUMIN hwyluso hunanfynegiadau radical o’r yma a’r nawr. Bydd y cyfranogwyr yn penderfynu ar ffyrdd o archifo ac ailadrodd eu presennol wrth archwilio pa mor haniaethol yw’r cof a’r weithred o recordio.

Beau W. Bakehouse: Awdur ac artist sy’n byw yng Nghaerdydd yw Beau. Mae ei waith yn archwilio croesdoriadau rhwng ecoleg, yr ysbrydol ac ôl-drefedigaethedd. Mae’n gwneud hyn drwy ddeialog, ffilm ac ymchwil radicalaidd.

Sadia Pineda Hameed: Mae Sadia hefyd yn awdur ac artist sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n defnyddio dulliau greddfol, seiliedig ar broses o ddeall y rhesymegol mewn amodau nad ydynt yn rhesymol; trwy freuddwydion, gwybodaeth hynafol a chymundeb telepathig.

Gyda’i gilydd mae Sadia a Beau yn ffurfio LUMIN, grŵp celfyddydol a gwasg fechan sy’n ceisio llwyfannu, creu deialogau a chydweithio â lleisiau creadigol amrywiol ac ymylol o Gymru a thu hwnt.

Dyfyniad:         

Y mae hanes cymunedau yn cael eu hadrodd gan eraill ar eu rhan yn llawer rhy aml. Y mae’n bell, wedi’i ymbellhau, byth yn ddigon presennol. Rydyn ni eisiau hwyluso dull o recordio unigolion ar y cyd –  yma, nawr –  a thynnu sylw at ddulliau radical cymunedau Riverside a Grangetown o hunan-fynegi, iddyn nhw greu rhywbeth sy’n perthyn yn gyfan gwbl iddyn nhw.”

 

Nôl i Ein Prosiectau