Gweithdai Ysgrifennu Creadigol ar gyfer unigolion sy’n byw â dibyniaeth
Cyfranogwyr: Unigolion sy’n byw â dibyniaeth
Enw(au) yr artistiaid: Iola Ynyr and Mirain Fflur
Lleoliad: Caernarfon
Disgrifiad prosiect: Gweithdai Ysgrifennu Creadigol ar gyfer unigolion sy’n byw â dibyniaeth
Gwybodaeth bellach: Bydd Iola Ynyr a Mirain Fflur, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru , ac mewn cydweithrediad â Galeri Caernarfon, yn cynnig cyfres o 6 gweithdy ysgrifennu creadigol yn y Gymraeg i hyd at 12 oedolyn o ddalgylch Caernarfon sy’n byw â dibyniaeth. Bydd dangosiad o’r gwaith creadigol a fydd yn deillio o’r cynllun yn cael ei gyflwyno gan actorion proffesiynol yn stiwdio Galeri Caernarfon ar ddydd Mercher 13 Tachwedd, 2019. Nod y prosiect yw ysbrydoli unigolion i fentro i ysgrifennu yn greadigol trwy nifer o symbyliadau fydd yn procio’r dychymyg. O fewn awyrgylch diogel, bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar feithrin hyder y cyfranogwyr gan eu hannog i feithrin eu llais unigol eu hunain.
Iola Ynyr: Mae Iola yn artist llawrydd sydd yn arbenigo ym maes theatr ynghyd ag hyfforddiant a datblygiad creadigol trwy’r celfyddydau. Mae ganddi 25 mlynedd o brofiad fel Cyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Fran Wen a phrofiadau eang o arwain gweithdai creadigol, sgriptio a datblygu cynyrchiadau gydag awduron. Mae ganddi brofiad personol o iselder a dibyniaeth.
Mirain Fflur: Mae Mirain Fflur yn artist ifanc sy’n rhan o gynllun ‘Awenau’ Theatr Genedlaethol Cymru, cynllun sy’n cefnogi datblygu arweinyddiaeth greadigol yn y theatr Gymraeg. Mae’n arbenigo mewn celfyddyd weledol, arbrofi gyda chynyrchiadau theatr gwreiddiol, actio ac arwain gweithdai creadigol. Mae ganddi hefyd ddiddordeb brwd mewn prosiectau cyfranogi ym maes iechyd a lles.
Dyfyniad:
“Dyma brosiect yr ydym oll yn teimlo’n angerddol amdano. Credwn bod gan ysgrifennu creadigol ran allweddol i’w chwarae yn y broses o roi llwyfan i leisiau unigolion sy’n aml wedi’u heithrio o gymdeithas o ganlyniad i’r stigma, yr anfantais economaidd a’r poen meddwl a chorfforol a ddaw yn sgil dibyniaeth.”