Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Helen yn fardd sy’n byw yng Nghaerdydd gyda’i thri phlentyn gwych yn eu harddegau a milgi bach doniol. Fe’i magwyd yn Belfast yn ystod cyfnod y Trafferthion a dilynodd yrfa fel sielydd cerddorfaol yn Glasgow. Mae sawl cerdd gan Helen wedi bod ar restr fer Gwobr Bridport ac yn ddiweddar enillodd Fentoriaeth Barddoniaeth Seren. Bydd hi’n ymddangos yn fuan yn ‘How I Write a Poem’ ar wefan Llenyddiaeth Cymru.
Mae Helen wedi treulio sawl blwyddyn yn hyfforddi ac yn gweithio yn y sector iechyd meddwl lle cafodd bleser yn hwyluso llawer o grwpiau llesiant yn y celfyddydau. Mae hi’n cael ymgeledd ym myd natur, yn enwedig wrth y môr. 

“Rwy’n credu bod grwpiau ysgrifennu yn sianel unigryw i bobl gyfathrebu a thyfu mewn dealltwriaeth drwyddi – y gall fod mwy nag un gwirionedd, bod profiad pawb yn ddilys a bod modd dathlu gwahaniaeth yn hytrach na’i ofni. Rwy’n gobeithio hwyluso grwpiau ysgrifennu ym mhob cornel o’n cymunedau a chredaf yn angerddol mewn darparu amgylchedd lle gall pobl ddod at ei gilydd yn greadigol, i gryfhau iechyd meddwl yn ogystal â bod yn gyfrwng iachâd. Rwyf wedi fy nghyffroi gan y potensial a ddarperir gan gynllun Sgwennu’n Well i wireddu’r weledigaeth hon trwy rym llenyddiaeth a’r grŵp.” 

Nôl i Carfan Sgwennu’n Well 2023-2024