Mae Lottie Williams yn egin awdur natur o Sir Gaerfyrddin. Mae hi wedi cyhoeddi ei gwaith ar-lein ac mewn print, gan gynnwys Nation Cymru a Modron, ac wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau gan gynnwys Coracle Europe, Lapidus a TheseThreeStreams. Mae Lottie wedi bod yn rhan o adran Rising Stars, wedi bod yn gyflwynydd yng Ngŵyl Farddoniaeth Seren, ac ar sianel YouTube JustAnotherPoet. Cafodd ei dewis gan Llenyddiaeth Cymru i fynychu cwrs preswyl Ysgrifennu Hinsawdd yng Ngholeg y Mynyddoedd Duon.
Mae Lottie yn astudio ar gyfer MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd, ac yn gweithio ar lyfr sy’n dilyn trywydd afon hiraf Cymru, y Afon Tywi, o’i tharddiad i’r môr.
“Rwyf mor ddiolchgar a chyffrous o gael fy newis ar gyfer y cyfle anhygoel hwn gan fy mod yn gwybod o brofiad yr effaith gadarnhaol y mae ysgrifennu er llesiant wedi’i gael ar fy mywyd, ac rwy am allu rhoi’r un profiad i eraill. Gwn sut mae llenyddiaeth yn gallu codi, bywiogi ac ysbrydoli ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu sut i greu ac yna cynnal gofod diogel ble gall cyfranogwyr ysgrifennu er mwyn archwilio teimladau a gwella llesiant. Rwy’n credu ei bod mor bwysig gallu darganfod – a defnyddio – eich llais.”