Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Sian Hughes yn awdur, yn sgriptiwr sgrin ac yn ymarferydd creadigol; cyrhaeddodd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion Pain Sluts restr fer Llyfr y Flwyddyn, 2022. Mae sawl stori ganddi wedi’u haddasu ar gyfer y sgrin, ac yn ddiweddar enillodd addasiad o’i stori ‘Consumed’ y wobr Ffuglen Fer Orau yng Ngŵyl Ffilm Reykjavik. Cwblhaodd Sian MA (Rhagoriaeth) mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2019, ac mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ei hail gasgliad, ‘Blink’. Mae Sian hefyd yn gweithio fel ymarferydd creadigol, yn asiant ar gyfer ‘Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol’ Cyngor Celfyddydau Cymru, ac fel hwylusydd ysgrifennu creadigol. Mae Sian yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i thri o blant. 

“Fy uchelgais yw datblygu rhaglen ysgrifennu creadigol a fydd yn cael effaith gadarnhaol weladwy ar fywydau pobl ifanc. Mae gen i ddiddordeb mewn archwilio cysylltiadau rhwng mynegiant creadigol, symudiad corfforol, llesiant a’r awyr agored ar ôl sylwi wrth gynnal gweithdai sut mae mynd allan i’r awyr agored yn caniatáu i unigolion wynebu’r anghyfarwydd a chymryd risg; mae hyn yn helpu i hyrwyddo’r meddylfryd amrywiol sy’n hanfodol ar gyfer mynegiant creadigol.

Rwy’n edrych ymlaen at y potensial o bartneru â sefydliadau llesiant neu chwaraeon i archwilio’r cysylltiadau hyn ymhellach ac yn credu y byddai rhaglen ysgrifennu sy’n cynnwys bod yn yr awyr agored a gweithgarwch corfforol o fudd arbennig i bobl ifanc â chyflyrau niwrowahanol neu rai sy’n dioddef o orbryder ar ôl Covid.” 

Nôl i Carfan Sgwennu’n Well 2023-2024