Mae Steff (fe/ei) yn artist amlddisgyblaethol ac ymchwilydd o Aberteifi. Ymhlith ei brosiectau presennol mae datblygu’r darn theatr Pan elo’r adar, sy’n archwilio’r berthynas rhwng dirywiad byd natur a cholli iaith. Mae e hefyd wrthi’n gweithio ei bamffled cyntaf o gerddi.
Yn gynharach yn 2023 buodd yn fentor ar gyfer gornest ysgolion o gyfres Y Talwrn ar BBC Radio Cymru. Bydd yn dechrau doethuriaeth ym maes ffilmiau barddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2024.
“Dw i’n gobeithio dros y flwyddyn y bydda i’n datblygu fel hwylusydd – yn meithrin sgiliau, yn gweld fy hyder yn cynyddu, ac yn cael profiadau gwerthfawr ac adeiladol.
Mae gallu cydweithio’n agos gyda mentor yn hynod gyffrous a dw i’n gobeithio gallu manteisio ar eu harbenigedd a’u gwybodaeth, yn enwedig wrth gynllunio a chynnal gweithgareddau gydag amrywiaeth o grwpiau a phobl fregus.
Mae’r rhaglen hon yn fuddsoddiad ynom ni’r hwyluswyr ond ymhellach na hynny, yn y cyfranogwyr y byddwn ni’n cydweithio â nhw yn ystod y flwyddyn a thu hwnt.”