Megan Lloyd
MwyTracey Rhys
MwyGillian Brownson
MwyDuke Al Durham
MwyDurre Shahwar
MwyHelen Comerford
Awdur y gyfres rom-com archarwr arobryn i blant a phobl ifanc, The Love Interest, yw Helen Comerford. Treuliodd ddegawd fel rheolwr llwyfan theatr, yn gweithio gefn llwyfan mewn theatrau ledled y wlad. Fe wnaeth ei chyfnod yn gweithio yn y Shakespeare’s Globe, a gyda Wise Children Theatre Company, gadarnhau ei chariad at theatr a chaniatáu iddi deithio o amgylch y byd yn chwilio am straeon. Ar ôl gorfod gwasgu ei hamser i ysgrifennu i’w dyddiau i ffwrdd o’r gwaith a theithiau trên, gadawodd Helen y theatr i ymgartrefu yn Ne Cymru ac ymroi i ysgrifennu llyfrau ac arwain gweithdai ysgrifennu creadigol. Pan nad yw hi wrth ei desg, neu ar y lôn yn teithio, gallwch ddod o hyd iddi yn crwydro i fyny bryniau Cymru gyda’i chi, Cocoa.
“Rwy’n hynod gyffrous i fod yn rhan o Garfan Sgwennu’n Well eleni ac ni allaf aros i ennill y sgiliau sydd eu hangen i blethu lles a natur i mewn i’m gweithdai ysgrifennu creadigol. Bydd y gefnogaeth sydd ar gael i ddatblygu cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer fy ardal leol (Torfaen) yn werthfawr ar gyfer fy ymarfer a, gobeithio, yn dod â chyfleoedd hwyliog a defnyddiol i fy nghymuned leol hefyd.”
Megan Lloyd
Mae Megan Lloyd (hi/ei) yn sgwennwr, hwylusydd a pherfformiwr o Eryri. Mae hi'n gweithio'n llawrydd ar sawl brosiect aml gyfrwng, gan gynnwys hwyluso gweithdai cymunedol, perfformio barddoniaeth llafar ac ysgrifennu a pherfformio i'r sioe theatr ddawns 'Q-fforia'.
Wedi iddi ymuno a chriw Prosiect Kathod yn Nhŷ Newydd ar gychwyn 2024 mae hi eisoes wedi cydweithio ar lawer o brosiectau cyffroes gan gynnwys yr arddangosfa 'Yr Ysgwrn Yn Ysbrydoli'. Mae ei gwaith yn ymddangos yn 'Ffosfforws' 5 a 6 ac yn 'O Ffrwyth Y Gangen Hon'. Mae hi'n hoff o arbrofi hefo ffiniau barddoniaeth a cherddoriaeth ac yn rhannu ei waith ar Instagram o dan yr enw @gwaithpapur.
“Rwy’n gyffrous iawn i gael y cyfle i ddysgu gan fentor a gan hwyluswyr mor brofiadol. Rwy'n gredwr cryf ym mhwerau natur a chreadigrwydd ar iechyd a lles ac ni allaf aros i ddod a mwy o hyn i'm hymarfer wrth i mi ddatblygu fel hwylusydd. Diolch i Llenyddiaeth Cymru am y cyfle gwych hwn.”
Tracey Rhys
Mae Tracey Rhys yn awdur o Ben-y-bont ar Ogwr, yn olygydd ffeithiol ac yn fam i ddau o blant. Mae ei barddoniaeth wedi’i gynnwys yn Poetry Wales, New Welsh Review, Planet, Ink Sweat & Tears, The High Window, Dreich a blodeugerddi fel Lipstick Eyebrows, Cast a Long Shadow, Yer Ower Voices: Dialect Poems from Wales, a Free Verse: Poems for Richard Price. Addaswyd cerddi o bamffled cyntaf Tracey, Teaching a Bird to Sing, yn fonologau barddonol ar gyfer dwy ddrama gan Tim Rhys, a gyfarwyddwyd gan Chris Durnall. Wedi’i rhestru ar gyfer gwahanol gystadlaethau gan gynnwys Cystadleuaeth Pamffled Cinnamon Press, Cystadleuaeth Pamffled Poetry Wales a Chystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd, roedd hi’n enillydd cystadleuaeth Poetry Archive’s Now WordView yn 2020. Bathing on the Roof (Parthian Books) yw ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth sydd newydd gael ei ryddhau ym mis Ebrill 2025.
“Rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy newis fel awdur ar gyfer y cynllun Sgwennu’n Well gan Llenyddiaeth Cymru. Dros y flwyddyn nesaf, bydd y rhaglen yn magu fy hyder fel hwylusydd ac yn amlygu’r broses o sefydlu rhaglen ysgrifennu creadigol yn y gymuned.
Fel mam i blentyn ag awtistiaeth, rwy’n deall y straen a’r pryderon y mae rhieni sy’n ofalwyr yn delio â nhw bob dydd. Bydd fy ngweithdai barddoniaeth yn ymgysylltu â byd natur ac yn annog cyfranogwyr i ddarganfod y llawenydd mewn ysgrifennu. Drwy fyfyrio ar eu hanghenion eu hunain a hefyd ar ehangder a chymhlethdodau’r amgylchedd, rwy’n gobeithio grymuso rhieni sy’n ofalwyr i ddod o hyd i’w lleisiau, ac i wybod eu bod yn cael eu clywed.”
Gillian Brownson
Mae Gillian Brownson yn awdur, artist barddoniaeth llafar, actor a storïwr. Mae hi’n hoff o ysgrifennu ffuglen, sgriptiau, barddoniaeth a straeon i blant a phobl ifanc. Mae hi wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Awdur Plant Newydd Bloomsbury, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei nofel ar gyfer plant a phobl ifanc, The Door in the Dark Well. Mae Gillian wedi cynhyrchu llyfrau plant, barddoniaeth a pherfformiad ar gyfer BookTrust Cymru, Creative Connections (fel rhan o Raglen Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw Cymru-Iwerddon) a hefyd tra’n gweithio fel bardd Llwyfan Map Cyhoeddus sy’n fenter ymchwil gan Prifysgol Caergrawnt.
Fel Cyfarwydd Cyfoes ar gyfer Gŵyl Adrodd Storïau Rhyngwladol Beyond the Border, bu Gillian yn archwilio straeon ac ysgrifennu creadigol mewn ysgolion, fel y mae’n parhau i wneud ar gyfer cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ogystal a’r Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hi’n byw yn ei thref enedigol, Caergybi gyda’i gŵr, dwy ferch, ei chi a’i chath.
“Fel rhan o Sgwennu’n Well, byddaf yn defnyddio ysgrifennu creadigol fel cyfrwng i rymuso plant a phobl ifanc a allai fod wedi profi trawma neu dlodi. Rwyf am gryfhau fy sgiliau hwyluso empathig a myfyriol, tra'n chwilio am fannau o dawelwch a gwahodd meddyliau ifanc i fannau creadigol a diogel, lle gallent fynegi eu hunain a chanfod eu llais, gan roi'r hyder iddynt ddilyn dyfodol llewyrchus. Rwy’n ddiolchgar i Llenyddiaeth Cymru am y gefnogaeth ar yr hyn sy’n teimlo fel cam pwysig iawn yn fy nhaith fel awdur.”
Duke Al Durham
Mae DUKE AL yn artist barddoniaeth llafar arobryn, yn fardd cyhoeddedig, yn artist hip hop ac yn ymarferwr creadigol. Mae ysgrifennu rhigymau fel therapi iddo. O oedran ifanc, byddai'n sgriblo rapiau a cherddi yn ei hen lyfr telynegol. Roedd yn ffordd o fynegi ei hun ac yn ddihangfa o’i OCD ac felly ffynnodd ei angerdd tuag at eiriau, llif ac odl. Ar ôl cael diagnosis o glefyd siwgr math 1 yn 23 oed, daeth ysgrifennu yn fwy hanfodol fyth, gan ei helpu i brosesu a mynegi ei emosiynau.
Nawr, mae DUKE AL yn defnyddio ei grefft i greu newid dylanwadol, un rhigwm ar y tro. Ei gasgliad diweddaraf yw IMAGINE WE TRADE BODIES WITH SHEEP, (2025 Lucent Dreaming). Mae ei waith wedi ei gynnwys a’i rannu gan Gymdeithas Bêl Droed Cymru, Rygbi Caerdydd, Caerdydd Greadigol, TNT Sports (Sport in Words ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon ar Sir Lewis Hamilton), BBC Cymru Wales, FujiFilm UK, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, a BBC Scrum V ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2022.
"Rwy'n ddiolchgar iawn o gael fy newis i fod yn rhan o'r rhaglen wych hon! Mae ysgrifennu er lles yn rhywbeth rydw i wedi ymarfer yn naturiol ers amser maith, gan ddefnyddio barddoniaeth fel therapi. Rwy'n gyffrous i fynd â fy mhrofiadau fel hwylusydd i'r lefel nesaf, gan ddatblygu fy sgiliau a gweithio ar fy mhrosiect fy hun o amgylch pobl sy'n byw gydag OCD. Mae hyn yn agos at fy nghalon ac yn rhywbeth rwyf wedi bod eisiau ei wneud ers amser maith, mae'r cyfle hwn yn golygu llawer i mi."
Durre Shahwar
Mae Durre Shahwar yn awdur, ymchwilydd a hwylusydd creadigol gyda PhD mewn ffuglen hunangofiannol a hunaniaeth Gymreig-Pacistanaidd o Brifysgol Caerdydd. Hi yw cyd-olygydd Gathering: Women of Colour on Nature (2024, 404 INK) a Just So You Know (2020, Parthian Books). Derbyniodd Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol a chanmoliaeth am ei gwaith ar gyfer y Morley Literary Prize.
Mae Durre wedi bod yn diwtor ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Defnyddiodd ei sgiliau hwyluso i gynnal gweithdai fel rhan o Gomisiynau Awduron Llenyddiaeth Cymru ochr yn ochr ag Özgür Uyanik, ac roedd yn rhan o Brosiect Natur a Ni mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Gwefan: Durreshahwar.com
“Rwy’n edrych ymlaen at ddyfnhau ac ehangu fy ngwybodaeth am hwyluso trwy ddysgu gan ymarferwyr eraill i ddatblygu gweithdai penodol ar iechyd meddwl ar gyfer cymunedau De Asiaidd. Mae’n bwysig ystyried fframweithiau hiliol a diwylliannol wrth feddwl am ysgrifennu fel rhywbeth sy’n cefnogi llesiant, ac rwy’n ddiolchgar am y gofod i archwilio sut y gall ysgrifennu lywio arferion therapiwtig ac i’r gwrthwyneb mewn ffordd sy’n groestoriadol a gwybodus o ran nodweddion a sensitifrwydd diwylliannol.”