Dewislen
English
Cysylltwch
Mae Emma Smith-Barton yn awdur, athrawes a mentor ysgrifennu creadigol o dde Cymru. Cafodd ei magwraeth rhwng diwylliannau ddylanwad fawr ar ei gwaith ysgrifennu ac mae ganddi ddiddordeb mewn archwilio themâu fel hunaniaeth a pherthyn. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, The Million Pieces of Neena Gill, gan Penguin Random House a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfrau Plant Waterstones, Gwobr Branford Boase a Gwobr Nofel Rhamant Début, Cymdeithas y Nofelwyr Rhamant.
Mae ganddi BA mewn Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Warwick ac MA Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bath Spa. Roedd hi’n un o ddeg awdur a ddewiswyd ar gyfer rhaglen Writers at Work Gŵyl y Gelli 2023 ac roedd hi’n feirniad ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023. 

“Llenyddiaeth a llesiant yw fy nwy brif angerdd, felly rwy’n gyffrous iawn i gael y cyfle hwn i wella fy ngwybodaeth a’m sgiliau i ddatblygu prosiectau sy’n cyfuno’r rhain i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl. Rwy’n angerddol am ddefnyddio llenyddiaeth i wella iechyd meddwl – ar gyfer plant a phobl ifanc ac oedolion – ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu gan arweinwyr yn y maes hwn. Nawr, yn fwy nag erioed, mae prosiectau fel hyn yn hanfodol.” 

Nôl i Sgwennu’n Well