Dewislen
English
Cysylltwch
Ydych chi’n fardd neu’n awdur sydd eisiau datblygu eich sgiliau wrth gyflwyno gweithgareddau ysgrifennu creadigol a yn eich cymuned leol? Ydych chi’n credu yng ngrym llenyddiaeth i ysbrydoli, gwella a chyfoethogi bywydau? Ydych chi’n llawn angerdd dros archwilio sut y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol gefnogi iechyd meddwl, gwella hunanhyder neu oresgyn trawma? Yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach wedi pasio. Dewch i adnabod yr artistiaid llwyddiannus.

Mae ein prosiect newydd, Sgwennu’n Well | Writing Well yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hwyluswyr llenyddol, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant. Bydd hon yn rhaglen datblygu proffesiynol blwyddyn o hyd gyda chefnogaeth ôl-ofal ar gyfer grŵp o hwyluswyr ar gychwyn neu ganol eu gyrfa.

Bydd y chwe mis cyntaf yn cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau mewn meysydd fel datblygu a rheoli prosiectau, rhedeg cyllidebau, casglu a chyfathrebu effaith eich gwaith, diogelu grwpiau, codi arian – a mwy. Bydd y grŵp hefyd yn archwilio theori ac ymarfer cynnal prosiectau llenyddiaeth er mwyn iechyd a llesiant ar gyfer amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn lleoliadau amrywiol.

Yn dilyn y rhaglen hyfforddi chwe-mis gychwynnol, y bwriad yw i hwyluswyr i gyflawni prosiectau y maent wedi’u dylunio a’u cynllunio yn ystod camau cychwynnol y rhaglen.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am chwe hwylusydd i ymuno â’r rhaglen ddatblygu hon. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o ystod o gefndiroedd amrywiol a phrofiadau byw, yn enwedig hwyluswyr wedi’i tangynrychioli gan gynnwys y rhai sy’n gweithio yn y Gymraeg, y rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, hwyluswyr sy’n nodi eu bod yn anabl, a’r rhai o gefndir incwm isel.

Mae cymryd rhan mewn ysgrifennu a darllen creadigol wedi’i brofi’n glinigol i fod o fudd i’n llesiant, yn gorfforol ac yn feddyliol; drwy’r rhaglen arloesol newydd hon, rydym yn gobeithio creu mwy o gyfleoedd i unigolion a chymunedau yng Nghymru elwa ar bŵer geiriau.

Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Medi 2023 ac yn rhedeg tan fis Medi 2024.

 

Beth fydd y rhaglen yn ei olygu?
  • Cyfarfod croeso un-wrth-un ar-lein gyda staff Llenyddiaeth Cymru ym mis Medi/Hydref 2023 i drafod eich amcanion personol; a hyd at ddau gyfarfod dilynol i drafod cynnydd.
  • Cyfarfod grŵp ar-lein gyda staff Llenyddiaeth Cymru ar gyfer y chwe hwylusydd llwyddiannus ym mis Medi/Hydref 2023, i gyflwyno pawb i’w gilydd ac i roi trosolwg o’r rhaglen.
  • Cael eich paru gyda mentor am bedwar sesiwn un-wrth-un yn ystod y flwyddyn i’ch helpu i gyrraedd eich amcanion ac i ddatblygu eich prosiect. Gallai’r sesiynau hyn fod yn gyfarfodydd ar-lein, neu’n gyfleoedd i chi gysgodi eich mentor mewn sesiynau hwyluso.
  • Un cwrs preswyl wedi ei arwan gan clare potter a Jill Teague yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, dydd Iau 26 – Dydd Sul 29 Hydref 2023. (Mae’r cwrs hwn hefyd yn agored i’r cyhoedd).
  • Cyfres o bum sesiwn hyfforddi ar-lein; un bob mis rhwng Tachwedd 2023 a Mawrth 2024 gyda hwyluswyr profiadol ac arbenigwyr ar y celfyddydau ar gyfer iechyd a llesiant.
  • Gohebu cyson gan Llenyddiaeth Cymru am gyfleoedd, digwyddiadau, gwyliau a mwy, a chefnogaeth broffesiynol gan Llenyddiaeth Cymru i ddatblygu eich cynllun prosiect.
  • Creu rhwydwaith cefnogol o gyd-hwyluswyr, dan arweiniad y garfan, i gynnig anogaeth gan gymheiriaid ac i ddatrys problemau.
  • Ysgoloriaeth o £1,000 i dreulio amser yn datblygu eich prosiect, ac i helpu gyda threuliau neu ymarferoldeb mynychu gweithgareddau craidd y rhaglen, e.e. teithio i Dŷ Newydd, gofal plant ac ati.

Yn ystod y chwe mis cyntaf (Medi 2023 – Mawrth 2024), bydd y chwe cyfranogwyr yn treulio peth amser yn datblygu prosiect o’u dewis yn cynnwys cynllun gweithredu manwl, gan gymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu yn ystod y sesiynau hyfforddi. Rydym yn bwriadu i’r prosiectau hyn, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, gael cyllid pellach i’w cyflawni yn ystod hanner olaf y rhaglen (Mawrth 2024 – Medi 2024) – os bydd cyllid a phartneriaethau’n caniatáu.

 

Cymhwysedd

Mae’r rhaglen ar agor i’r rhai dros 18 oed ac sy’n byw yng Nghymru pan yn gwneud y cais a thrwy gydol y rhaglen 12 mis.

Bydd angen i’r ymgeiswyr:

  • Ymrwymo i gymryd rhan yn yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau a drefnir fel rhan o’r rhaglen.
  • Bod â rhywfaint o brofiad o redeg gweithdai ysgrifennu creadigol neu lenyddiaeth ar gyfer iechyd a llesiant mewn ysgolion, cymunedau neu leoliadau iechyd.
  • Bod yn angerddol am botensial llenyddiaeth a gweithgareddau llenyddol i gefnogi iechyd a llesiant unigolion a chymunedau.
  • Bod â gweledigaeth uchelgeisiol o sut y byddant yn defnyddio eu sgiliau a grym llenyddiaeth i ysbrydoli, gwella a bywiogi bywydau.

Rydym yn awyddus i annog ceisiadau gan unigolion heb gynrychiolaeth deg yn y sector creadigol, a chan ymgeiswyr sydd wedi wynebu rhwystrau a gwahaniaethu oherwydd cefndir ethnig, anabledd neu brofiad o gefndir incwm isel. Os ydych am wneud cais am y prosiect hwn, ond yn ansicr a ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd, cysylltwch â Louise Richards am sgwrs anffurfiol: louise@llenyddiaethcymru.org


Addewid Llenyddiaeth Cymru

Mynediad: Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ar gyfer anghenion mynediad pob ymgeisydd. Gofynnwn i chi ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch fel y gallwn sicrhau y gallwch gael mynediad i’r broses ymgeisio a’i llywio’n ddiogel ac yn gyfforddus.

Hyfforddiant a Diogelu: Bydd Llenyddiaeth Cymru yn trefnu hyfforddiant diogelu ac yn parhau i gefnogi’r hwyluswyr gyda’r elfen bwysig hon drwy gydol y rhaglen. Mae llesiant yr hwyluswyr eu hunain hefyd yn flaenoriaeth i Llenyddiaeth Cymru, a chynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda chydlynydd y prosiect i roi cefnogaeth a thrafod unrhyw bryderon.

Amrywiaeth: Rydym yn angerddol yn ein nod i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth ac anghydraddoldebau o fewn y celfyddydau. Bydd gennym ddiddordeb arbennig felly mewn derbyn ceisiadau gan unigolion sy’n ystyried eu bod yn cael eu tangynrychioli o fewn diwylliant llenyddol Cymru. Am arweiniad pellach, gweler y Cwestiynau Cyffredin.

Yr Argyfwng Hinsawdd: Un o flaenoriaethau Llenyddiaeth Cymru yw’r taclo’r argyfwng hinsawdd. Ein nod yw defnyddio pŵer creadigol geiriau i addysgu, herio ac ysbrydoli newid hirdymor yn y maes hwn. Rydym hefyd yn anelu at sicrhau bod ein holl brosiectau yn cael eu rhedeg mewn ffordd ecogyfeillgar. Bydd hyn yn ystyriaeth pan fyddwn yn asesu ceisiadau, er enghraifft efallai y byddwn yn chwilio am gyfranogwyr sydd â dealltwriaeth ddofn neu gysylltiad â’u cymunedau lleol sydd am fynd i’r afael â materion yn eu cymunedau eu hunain wrth ddysgu.

Yr Iaith Gymraeg: Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i greu cronfa ehangach o hwyluswyr creadigol Cymraeg eu hiaith ym mhob rhan o Gymru i gynnal prosiectau Cymraeg a dwyieithog.

 

Ymgeiswch Nawr

 

Galwad Agored (Dyslecsia Gyfeillgar)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 30KB
Galwad Agored (Print Bras)
Iaith: WelshMath o Ffeil: WordMaint: 30KB
Nôl i Sgwennu’n Well