Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. O ddydd i ddydd, mae hi’n awdur, golygydd a hwylusydd llawrydd. Cyhoeddwyd ei chasgliad barddoniaeth diweddaraf – merch y llyn – gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn 2021, a daeth i’r brig yng ngwobr Llyfr y Flwyddyn, categori Barddoniaeth. Mae eu hysgrifau wedi ymddangos mewn cylchgronau yn cynnwys Planet ac O’r Pedwar Gwynt. Mae hi hefyd yn olygydd gyda Chyhoeddiadau’r Stamp, a chyd-olygodd gyfrol o ysgrifau am ddyfodol Cymru o’r enw Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales a gyhoeddwyd gyda gwasg Repeater yn 2022.
“Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at y cyfle i ddysgu gan hwyluswyr profiadol, a gan ymarferwyr eraill, a dwi’n gobeithio bydd y rhaglen yn help i mi ddatblygu fy ngwybodaeth a fy mhrofiad o sut i ddefnyddio llenyddiaeth fel ffordd o drafod, deall ag ymdopi efo sefyllfaoedd a phrofiadau anodd.”