Dewislen
English
Cysylltwch

Mae  Sgwennu’n Well| Writing Wellyn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth hwyluswyr llenyddol, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant a Natur. Bydd hon yn rhaglen datblygu proffesiynol 15-mis o hyd gyda chefnogaeth ôl-ofal ar gyfer grŵp o hwyluswyr â pheth profiad o gyflwyno prosiectau mewn cymunedau. Mae’r rhaglen yn cael ei rhannu i ddwy ran.

 

Rhan 1:

Mae’r tri mis cyntaf yn cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau a datblygu gwybodaeth a hyder ym maes hwyluso llenyddol. Mae’n cynnwys:

  • Isafswm o 4 sesiwn gyda mentor
  • Sesiynau hyfforddi sy’n archwilio theori ac ymarfer cynnal prosiectau llenyddiaeth er mwyn iechyd a llesiant ar gyfer amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn lleoliadau amrywiol.
  • Hyfforddiant penodol ar gyllidebau, mesur a chyfathrebu effaith, diogelu a mwy.
  • chyfleoedd i rwydweithio, gwneud cysylltiadau newydd a meithrin perthynas ag awduron eraill.

 

Rhan 2:

Yn dilyn y rhaglen hyfforddi tri-mis gychwynnol, a thri mis o gynllunio, y bwriad cynnig cronfa o gyllid i hwyluswyr i gyflawni prosiectau y maent wedi’u dylunio a’u cynllunio yn ystod camau cychwynnol y rhaglen.

Ar ôl y rhaglen 15 mis, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r garfan a phartneriaid eraill i wneud yn siŵr eu bod yn gallu derbyn y cymorth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu hamcanion.

Nôl i Sgwennu’n Well