Eloise Williams
MwyAlex Wharton
MwyHelen McSherry
MwySian Melangell Dafydd
Mwyclare e potter
MwySanah Ahsan
Mae Dr Sanah Ahsan yn fardd, seicolegydd rhyddhad ac addysgwr. Mae eu gwaith yn tynnu ar therapïau, ymgorfforiad a barddoniaeth fel arferion sy'n cadarnhau bywyd. Mae rhywfaint o waith cyfryngau Sanah yn cynnwys ysgrifennu ar gyfer The Guardian a chyflwyno rhaglen ddogfen Channel 4 ar or-feddyginiaethu trallod pobl. Fel bardd, mae Sanah wedi ennill Gwobr Perfformiad Barddoniaeth Outspoken, a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ysgrifennu Newydd Queen Mary Wasafiri, Gwobr Barddoniaeth White Review a Gwobr Barddoniaeth Bridport. Mae casgliad cyntaf barddoniaeth Sanah, I cannot be good until You say it (Bloomsbury Mawrth 2024), yn fyfyrdod ar Islam, queerness a daioni. Mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr The Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau, a'i ddewis fel un o lyfrau Barddoniaeth Gorau The Guardian.
www.sanahahsan.com
Instagram: @sanah_ahsan
Eloise Williams
Mae Eloise Williams yn awdur llyfrau arobryn i bobl ifanc. Gaslight, Seaglass, Elen’s Island, Wilde, Honesty & Lies, i gyd gyda Firefly Press. The Tide Singer a The Curio Collectors gyda Barrington Stoke. Roedd hi'n awdur ac yn gyd-olygydd The Mab, ail-adrodd bywiog o straeon Y Mabinogi a gyhoeddwyd gan Unbound.
Mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe, cafodd ei dewis i fod yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, a hi oedd y cyntaf i ymgymryd â rôl Children's Laureate Wales, rhwng 2019-2021.
Ar ôl tyfu i fyny gyferbyn â llyfrgell yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, mae Eloise bellach yn byw yn Sir Benfro.
Alex Wharton
Alex Wharton yw Children’s Laureate Wales 2023 – 2025 ac mae’n fardd, awdur a pherfformiwr. Cyhoeddodd ei gasgliad barddoniaeth cyntaf, Daydreams and Jellybeans (Firefly Press 2020) gan gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, yn ogystal â Gwobrau Llyfrau Laugh Out Loud. Mae ei ail gyfrol o farddoniaeth, Doughnuts, Thieves and Chimpanzees (Firefly Press, 2023) yn cynnig arweiniad bywiog ar sut i sgwennu barddoniaeth, rap, haiku a mwy, ac wedi’i enwebu ar gyfer Medal Yoto Carnegie 2025. Cyhoeddwyd ei drydydd casgliad Red Sky at Night, Poet’s Delight yn 2024 a’i chyfrol gydymaith Red Sky in the morning, Poets’ Warning, flwyddyn yn ddiweddarach, maen nhw’n llawn cerddi dirgel, doniol, athronyddol a swynol ac wedi’u darlunio gan Ian Morris.
Helen McSherry
Bardd o Belfast yw Helen McSherry sy'n byw yng Nghaerdydd. Mae ei cherddi wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Bridport, Gwobr Mairtin Crawford, a dyfarnwyd yr ail safle iddi yng Ngwobr Hammond House. Mae ei barddoniaeth wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau fel Poetry Wales a London Grip, yn ogystal â blodeugerddi yn Iwerddon a Phrydain. Mae Helen yn hwyluso grwpiau ysgrifennu er llesiant, wedi gweithio gyda sefydliadau iechyd meddwl yn hwyluso grwpiau a chafodd ei dewis ar gyfer rhaglen Sgwennu’n Well, Llenyddiaeth Cymru 2024. Mae hi hefyd wedi ennill cymwysterau, gan gynnwys Tystysgrif Sylfaen mewn Seicotherapi a Chwnsela o Bath Centre for Psychotherapy and Counselling.
https://www.instagram.com/helenmcsherrypoet/
Sian Melangell Dafydd
Siân Melangell Dafydd yw awdur Y Trydydd Peth (Gomer, 2009), a enillodd y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2009, Filò (Gomer, 2019) ac egin-nofel, A’r Ddaear ar Ddim (Cyhoeddiadau’r Stamp, 2023). Cyhoeddodd gasgliad o farddoniaeth ar y cyd ag Anitha Thampi o Kerala, India, yn 2018: Dŵr Arall / A Different Water (Poetrywala). Hi yw colofnydd natur O’r Pedwar Gwynt a bu'n gyd-olygydd i'r cylchgrawn llenyddol, Taliesin.
Mae Siân yn athrawes yoga, yn gwneud meddyginiaethau llysieuol a thriniaethau ar gyfer ei theulu ac yn nyddu gwlân. Yn 2024, dechreuodd brosiect ymchwil o’r enw Coel Gwrach i drafod hanes swynwragedd yng Nghymru.
Mae’n gweithio fel darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn The American University of Paris ond yn byw wrth droed y Berwyn.
Instagram: @sian.melangell.dafydd
Blue Sky: @sianmelangelld.bsky.social
Threads: @sian.melangell.dafydd
clare e potter
Mae clare e. potter wrth ei bodd â barddoniaeth yn y coed, wrth y goeden onnen. Mae hi'n hwyluso gweithdai llesiant creadigol sy’n cysylltu â natur, ac wedi'i hysgogi gan y gred y gall barddoniaeth fod yn rym ar gyfer newid personol a chymdeithasol. Mae hi'n cyflwyno rhaglenni radio (Mae The Poet's Poet wedi'i enwebu am Wobr Cyfryngau Celtaidd); bu’n cyfarwyddo rhaglen ddogfen BBC (The Wall and the Mirror) am farbwr ei phentref, ac wedi hynny ffurfiwyd grŵp i achub sefydliad y glowyr lleol. Mae hi wedi cyfieithu i Fardd Cenedlaethol Cymru, roedd ar raglen Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli ac hi yw enillydd Gwobr Farddoniaeth Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth/Jerwood i Gymru eleni. Mae ei phamffled Cymraeg cyntaf, Nôl Iaith (Cyhoeddiadau'r Stamp 2025) yn dilyn casgliad newydd Healing the Pack (Verve Poetry Press 2024). Roedd hi'n gyfranogwr yn encil ieithoedd Ewropeaidd Llif eleni fel llysgennad dros yr iaith Gymraeg.
Insta: potter_poet
X: @clare_potter