Dewislen
English
Cysylltwch

Cwestiynau Cyffredin

Pwy sy'n gymwys i wneud cais? 

Mae’r rhaglen ar agor i’r rhai dros 18 oed ac sy’n byw yng Nghymru pan yn gwneud y cais a thrwy gydol y rhaglen 12 mis.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i greu diwylliant llenyddol sydd wir yn cynrychioli amrywiaeth ein poblogaeth yng Nghymru. I’r perwyl hwn, rydym yn croesawu’n arbennig ymgeiswyr sy’n gallu egluro perthnasedd eu profiadau bywyd amrywiol i’r prosiectau yr hoffent eu datblygu a’u cyflwyno. Byddwn yn annog ymgeiswyr i egluro yn eu geiriau eu hunain sut y cânt eu tangynrychioli o fewn diwylliant llenyddol Cymru, e.e. 

  • Cefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig 
  • O gefndir incwm isel (unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu yr oedd eu rhieni mewn swyddi cyflog isel, yn ddi-waith, neu’n derbyn budd-daliadau gan gynnwys lwfansau anabledd pan oedd ymgeiswyr yn 14 oed) 
  • unigolion sy’n arddel hunaniaeth F/fyddar neu anabl, neu sydd â chyflwr iechyd hirdymor LGBTQA+ 

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan hwyluswyr sy’n cynnal gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg yn arbennig. Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i greu cronfa ehangach o hwyluswyr creadigol Cymraeg eu hiaith ym mhob rhan o Gymru i gynnal prosiectau Cymraeg a dwyieithog. 

Oes angen profiad blaenorol arnaf i wneud cais, neu ydw i'n rhy brofiadol i wneud cais? 

Byddwn yn chwilio am rywfaint o brofiad o hwyluso gweithdai ysgrifennu creadigol llên ar gyfer iechyd a llesiant. 

Mae’r cyfle hwn yn bennaf ar gyfer hwyluswyr lled-newydd ac ar ganol eu gyrfa. Fodd bynnag, fel hwylusydd mwy profiadol efallai y gwelwch fod yna rwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai y byddwch am arbrofi gyda ffurf wahanol, gweithio gyda grŵpiau cwbl wahanol neu reoli prosiect eich hun am y tro cyntaf.  

Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth yw lled-newydd neu ar ganol eu gyrfa, a lle maent yn credu eu bod ar eu taith fel awdur. Os ydych chi’n ansicr ai dyma’r rhaglen iawn i chi ar y cam hwn o’ch gyrfa ysgrifennu, cysylltwch â ni i drafod. 

Sut bydd fy nghais yn cael ei asesu?

Bydd y panel asesu yn cynnwys aelodau o staff Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal ag arbenigwyr allanol ym maes iechyd, llesiant a/neu addysg. Byddwn yn chwilio am arloesedd, angerdd, a ffocws clir o ran eich uchelgeisiau a’ch dyhead fel hwylusydd cyfranogi cymunedol creadigol. Byddwn hefyd yn edrych ar addasrwydd y rhaglen hon ar y cam hwn o’ch gyrfa fel hwylusydd.  

Byddwn yn canolbwyntio ar ddod â grŵp amrywiol a chynrychioliadol o awduron ynghyd o ran daearyddiaeth, profiad ysgrifennu, ieithoedd, ac unrhyw brofiad byw a nodir yn y cais, a fydd yn cyflwyno persbectif newydd ar ysgrifennu Cymreig ac ymgysylltu â’r gymuned.

Pryd byddaf yn gwybod a yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus? A fyddaf yn derbyn adborth ar fy nghais?

Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd erbyn dechrau mis Medi 2023. Gan ein bod yn disgwyl llawer o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu rhoi adborth manwl i bob ymgeisydd. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl byddwn yn darparu adborth byr, personol, a chyngor ar gyfleoedd eraill a allai fod ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid. 

Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch llesiant. Rhoddwn ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo. 

Bydd gan dîm bychan o staff Llenyddiaeth Cymru fynediad at eich cais. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi yn y dyfodol gyda chyfleoedd personol, yn seiliedig ar eich gwaith a’ch arbenigedd. Er mwyn galluogi Llenyddiaeth Cymru i gydymffurfio â chyfraith diogelu data (GDPR), cwblhewch yr adran berthnasol ar ddiwedd y ffurflen gais i roi gwybod i ni os nad ydych am i Llenyddiaeth Cymru gysylltu â chi ynglŷn â chynigion yn y dyfodol.

Sut olwg fydd ar strwythur y rhaglen?

Dyddiadau pwysig: 

Dyddiad cau i wneud cais: 5.00 pm, dydd Iau 29 Mehefin 2023
Cyfnod asesu (gan gynnwys cyfweliadau posibl): Gorffennaf ac Awst 2023
Hysbysu pob ymgeisydd o’r penderfyniad: erbyn dechrau Medi 2023
Cyfarfodydd ar-lein gyda staff Llenyddiaeth Cymru: Medi a Hydref 2023
Cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd: Prynhawn dydd Iau 26 – prynhawn dydd Sul 29 Hydref 2023
Sesiynau hyfforddi misol: Tachwedd 2023 – Mawrth 2024; yr union ddyddiadau i’w cadarnhau gyda’r garfan  

Mentora: pedair sesiwn un-wrth-un gyda mentor
Datblygu’r Prosiect: Medi 2023 – Mawrth 2024
Cyflawni’r Prosiect (yn ddibynnol ar gyllido): Mawrth 2024 – Medi 2024
 

Bydd chwe hwylusydd yn cael eu dewis ar gyfer y rhaglen. Ar ôl cyfarfodydd un-wrth-un a chyfarfodydd grŵp cychwynnol ar-lein ym mis Medi/Hydref 2023, bydd penwythnos hir trochi wyneb yn wyneb yn Nhŷ Newydd o brynhawn dydd Iau 26 – prynhawn dydd Sul 29 Hydref 2023 gyda thiwtoriaid clare e potter a Jill Teague. Tra bydd y garfan yn cyfarfod ddiwrnod ynghynt i rwydweithio ac i dderbyn hyfforddiant personol, mae’r cwrs hwn hefyd yn agored i’r cyhoedd, a bydd yn canolbwyntio ar farddoniaeth ar gyfer iechyd a llesiant. 

Caiff sesiynau hyfforddi, ar-lein, misol eu trefnu, rhwng Tachwedd 2023 a Mawrth 2024. 

Yn ystod y chwe mis cychwynnol hwn, byddwch yn gweithio gyda’ch mentor a chyda’r hyn y byddwch yn dysgu o’r sesiynau hyn i ddatblygu prosiect cyfranogiad ar gyfer iechyd a llesiant, gan ddefnyddio ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth fel arfau. Yn ogystal ag edrych ar nodau effaith eich prosiect ar y grŵp a chynnwys creadigol a strwythur y prosiect, byddwch hefyd yn datblygu cynllun yn edrych ar ddatblygu a rheoli prosiect, gan gynnwys rhedeg cyllidebau, nodi a chyfathrebu effaith, diogelu’r grwpiau, meithrin partneriaethau, codi arian a mwy. 

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda’r hwyluswyr i asesu prosiectau sydd wedi’u cynllunio’n llwyddiannus ac yn dyfarnu cyllid i hwyluswyr llwyddiannus i gyflawni eu prosiectau arfaethedig, Mawrth 2024 – Medi 2024. 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r rhaglen ddod i ben?

Ar ôl y rhaglen 12 mis, byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth i’r garfan drwy gadw mewn cyswllt â nhw, cynnig cyngor a gwahodd yr hwyluswyr i gyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi pellach. Mae hwn yn fuddsoddiad hirdymor yn natblygiad yr hwyluswyr. Bydd Llenyddiaeth Cymru hefyd yn gweithio gyda’r hwyluswyr i annog hirhoedledd eu prosiectau.

Ym mha iaith y caiff y rhaglen hon ei chyflwyno?

Mae ’Sgwennu’n Well yn rhaglen ddwyieithog, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan hwyluswyr o Gymru sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Mae croeso mawr i hwyluswyr sy’n newydd i weithio yn y Gymraeg ond sydd â diddordeb mewn dechrau arni, yn ogystal â hwyluswyr sy’n mwynhau arbrofi gyda’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol hefyd. Bydd pob digwyddiad yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn dibynnu ar ddewis iaith y garfan. Bydd dehongliad byw ar gael lle bo angen. 

Faint o fy amser fydd angen i mi ei roi i’r rhaglen? A allaf wneud cais os oes gennyf gyflogaeth a/neu gyfrifoldebau gofalu? A fydd yn ofynnol i mi deithio ar gyfer digwyddiadau?

Bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau’n cael eu cyflwyno gyda’r nos ac ar-lein, er y byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’r garfan i nodi amseroedd a dyddiadau cyfleus i bawb ymuno â’r sesiynau ar-lein misol. Gofynnwn am ymrwymiad gan bob aelod o’r garfan i fynychu pob digwyddiad, ond os bydd rhywbeth brys neu annisgwyl yn atal awdur rhag mynychu, efallai y bydd recordiadau ar gael i’w gwylio yn nes ymlaen. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru bob amser wrth law i gefnogi’r awduron a helpu i sicrhau bod pob aelod o’r garfan yn elwa o’r rhaglen. 

Rydym yn amcangyfrif y byddwn yn trefnu gweithgareddau ac yn gosod tasgau a fydd angen tua 10 diwrnod cyfan o’ch amser yn ystod y chwe mis cyntaf, ond bydd llawer o’r digwyddiadau hyn wedi’u hamserlennu i osgoi ymyrryd ag oriau swyddfa. Chi sydd i benderfynu faint o oriau ychwanegol y byddwch wedyn yn gallu eu neilltuo ar gyfer datblygu eich prosiectau eich hun yn ystod y flwyddyn. 

Bydd y rhan fwyaf o weithgarwch craidd y rhaglen yn cael ei gyflwyno ar-lein er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu mynychu, waeth beth fo’u lleoliad. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys penwythnos preswyl y bydd gofyn i chi ei mynychu  yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o ddydd Iau 26 Hydref i ddydd Sul 29 Hydref. 

Mae gennyf anabledd neu salwch a allai ei gwneud yn anodd cymryd rhan, a allwch chi helpu?

Gallwn. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw bryderon a gofynion cyn a thrwy gydol y rhaglen. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Mae Cronfa Fynediad ar gael i alluogi cyfranogiad llawn mewn digwyddiadau i awduron ag anableddau neu salwch a allai fod â gofynion mynediad ychwanegol. 

I gael gwybodaeth am hygyrchedd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ewch i’n gwefan: https://www.tynewydd.cymru/y-ty/mynediad/  

Nôl i Sgwennu’n Well