Dewislen
English
Cysylltwch

Gweithdai i archwilio sut rydyn ni’n creu ac yn dathlu harddwch fel menywod o liw trwy fynegiant artistig a barddonol

 

Cyfranogwyr: Merched BAME

Awdur: Hanan Issa

Lleoliad: Caerdydd

Gwybodaeth bellach: Gweithdai i archwilio sut rydyn ni’n creu ac yn dathlu harddwch fel menywod o liw trwy fynegiant artistig a barddonol.

Hanan Issa: Bardd ac awdur Cymreig-Iracaidd yw Hanan. Hi yw cyd-sylfaenydd cyfres meic agored gyntaf BAME Cymru ‘Where I’m Coming From’. Roedd hi’n un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli 2018-2019. Cyhoeddwyd ei phamffled barddoniaeth cyntaf My Body Can House Two Hearts gan BurningEye Books ym mis Hydref 2019. Mae hi wedi cael sylw ar ITV Cymru a BBC Radio Wales ac wedi gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Artes Mundi, prifysgol Warwick, Fringe Abertawe, gŵyl StAnza, Wales Arts International a Seren Books. Cyhoeddwyd ei gwaith yn Banat Collective, Hedgehog Press, Wales Arts Review, Sukoon mag, 4 Journal, Poetry Wales, Parthian, Y Stamp, cylchgrawn sister-hood a MuslimGirl.com. Cafodd ei monolog buddugol sylw yn Bush Theatre’s Hijabi Monologues.

Dyfyniad:         

“Nod y prosiect Skin Deep yw tynnu haenau o chwedlau a adroddir am harddwch, ail-archwilio pwy sy’n diffinio harddwch, a rhoi caniatâd i ni’n hunain, fel menywod, ddathlu’r harddwch rydyn ni’n ei ddarganfod yn ein hunain.”

Nôl i Ein Prosiectau