Dewislen
English
Cysylltwch

Gweithdai ysgrifennu creadigol ar gyfer pobl gydag anawsterau iechyd meddwl


Cyfranogwryr
:            Pobl sy’n dioddef o anawsterau iechyd meddwl

Enw artist:      Mari Ellis Dunning

Lleoliad:          Mind, Aberystwyth, Ceredigion

Gwybodaeth bellach: Fe fydd Ysgrifennu er Llesiant yn brosiect sy’n cefnogi ac yn grymuso’r cyfranogwyr gan ganolbwyntio ar gael effaith cadarnhaol ar greu er mwyn llesiant ac iechyd meddwl. Drwy gyfrwng chwe gweithdy ysgrifennu creadigol fe fydd cyfranogwyr yn arbrofi gyda ffurfiau barddoniaeth, stori fer ac ysgrifennu ffeithiol greadigol gyda’r nod o ddatblygu strategaethau ymdopi drwy ysgrifennu. Bydd y prosiect yn annog ymdeimlad o gyd-berthyn ac ymgysylltiad ehangach â llenyddiaeth a’r celfyddydau i bobl a allai gael eu gwthio i’r cyrion oherwydd anawsterau iechyd meddwl. Yn benllanw i’r prosiect bydd pamffled o waith y cyfranogwyr yn cael ei gynhyrchu.

Mari Ellis Dunning: Mae Mari Ellis Dunning yn fardd sydd wedi cael cryn lwyddiant, mae hefyd yn llenor a bu’n un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli. Cyrhaeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Salacia, restr fer Llyfr y Flwyddyn 2019. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf i blant, Percy the PomPom Bear yn 2016 a’i lansio yng Ngŵyl Ysgrifennu Y Fenni. Dechreuodd astudio am Ddoethuriaeth mewn ysgrifennu creadigol yn hydref 2019, gan archwilio gwrachyddiaeth ac atgenhedlu mewn straeon byrion. Mae Mari yn byw ar yr arfordir ger Aberystwyth gyda’i gŵr a’u ci.

Gair gan Mari:

“Rwy’n gobeithio annog a grymuso unigolion nad oes ganddynt yr hyder neu’r sgiliau eto o bosib i ddefnyddio llenyddiaeth fel arf i wella eu llesiant ac iechyd meddwl. Rwy wedi defnyddio ysgrifennu creadigol i archwilio ac i rannu fy mhrofiadau erioed, a gobeithiaf y bydd y cynllun hwn yn ysbrydoli eraill i wneud hyn hefyd.”

Nôl i Ein Prosiectau