Dewislen
English
Cysylltwch

Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru archwiliad ar henebion cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladau sy’n gysylltiedig â’r fasnach mewn caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig. Roedd yn cyfeirio rhywfaint hefyd at gerfluniau ac enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â Hanes Pobl Dduon.

Er bod pobl Dduon wedi bod yn cyfrannu at fywyd yng Nghymru ers canrifoedd, darganfyddodd saith coffâd yn unig i unigolion o dreftadaeth Ddu yng Nghymru.

Rydym ni’n hynod falch o gefnogi prosiect Ymatebion Creadigol Cadw, sy’n dechrau cywiro hyn. Gyda’n gilydd, mae’r ddau sefydliad wedi comisiynu’r bardd Alex Wharton i ymchwilio i nifer o unigolion nodedig ac ysgrifennu amdanynt. Trwy gerddi, caneuon a ffilmiau, mae Alex wedi cyfleu straeon pobl flaenllaw ym myd adloniant, chwaraeon ac academia, a chreu teyrngedau i bobl yn cynnwys Iris de Freitas, Clive Sullivan a Betty Campbell.

Dyma fideo o’i gerdd Y Garddwr, wedi’i hysbrydoli gan John Ystumllyn (c1736-1786), un o arddwyr Duon hysbys cyntaf y DU:

Gallwch brofi holl waith Alex ar y prosiect ar wefan Cadw yma.

Mae’r darnau hyn yn ddechrau taith i goffáu amrywiaeth ehangach o bobl ac i gydnabod y ffyrdd amrywiol y maen nhw wedi cyfrannu at y Gymru a welwn ni heddiw.

Nôl i Ein Prosiectau