Dewislen
English
Cysylltwch

Enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021

Y Wobr Ffuglen a Phrif Enillydd

tu ôl i'r awyr - Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Mae Anest a Deian yn y Chweched Dosbarth a phan maen nhw’n cwrdd, mae byd y ddau yn newid am byth.
Nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc na welwyd ei debyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen.

Mae MEGAN ANGHARAD HUNTER yn dod o Ddyffryn Nantlle ac mae’n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru. Tu ôl i’r awyr yw ei nofel gyntaf.

Y Wobr Ffeithiol Greadigol ac Enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360

O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards - Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer)

Dyma’r cofiant llawn cyntaf i ŵr a ddaeth, yn ystod ei oes ei hun, yn eilun ei genedl. Ynddo ceir portread tra gwahanol o O.M. i’r fytholeg gyfarwydd a grëwyd wedi ei farwolaeth, a gwelir ef yma yn ieuenctid ei ddydd ac yn anterth ei nerth. Rhoddir sylw dyledus i’w yrfa ac i’w fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru. Cyflwynir yn ogystal y dyn preifat a gaethiwyd gan rym ei obsesiynau a chymhlethdodau ei gymeriad, ac a brofodd ergydion chwerw fel priod a thad. Clywir llais O.M. drwy’r gyfrol, yn ogystal â lleisiau ei wraig, ei deulu a’i ffrindiau.

Mae’r cofiant pwysig hwn yn ffrwyth ymchwil drwyadl, a cheir ynddo wybodaeth gwbl newydd a darganfyddiadau annisgwyl. Fe’i cyhoeddwyd ar ganmlwyddiant marwolaeth Syr O.M. Edwards yn 1920.

Magwyd HAZEL WALFORD DAVIES yng Nghwm Gwendraeth ac addysgwyd hi ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.  Bu’n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro ym Mhrifysgol De Cymru, a threuliodd gyfnodau fel Athro Ymweliadol mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau.  Bu’n aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, yn gadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth y Cyngor, ac yn gadeirydd Bwrdd Canolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg y Sector Addysg Uwch yng Nghymru sydd bellach wedi ei ymgorffori yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Hi oedd cadeirydd cyntaf Bwrdd Ymgynghorol y DU o Gymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudiaethau Diwylliant a Hanes Cymru.  Bu’n aelod o Fwrdd yr Academi Gymreig, o Gyngor a Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a Bwrdd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.  Etholwyd hi yn Gymrawd yr Academi Gymreig, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Y Wobr Farddoniaeth

Mynd - Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)

Cyfrol i Dafydd Tudur, brawd Marged, yw Mynd. Mae yma golled a galar, ond cariad, yn fwy na dim byd arall, sy’n llinyn arian drwy’r cerddi hyn.

Daw MARGED TUDUR yn wreiddiol o Forfa Nefyn ond bellach mae’n byw yng Nghaernarfon. Wedi graddio mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd MA Ysgrifennu Creadigol a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth. Mae’n gweithio fel golygydd.

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

#helynt - Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae colli’r bws i’r ysgol yn gallu newid dy fywyd di…

Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref (wedi’r cyfan, mae’r beili wedi mynd â char ei thad), gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr. Yno, mae hi’n cyfarfod â Shane, dyn golygus, llawn dirgelwch sy’n gwybod rhywbeth am ei gorffennol… cyfrinach allai chwalu ei theulu. Ond mae Rachel yn awchu i gael y gwirionedd ganddo…

Magwyd REBECCA ROBERTS ger y môr ym Mhrestatyn, ac yna mae hi’n byw o hyd gyda’i gŵr Andy a’i phlant, Elizabeth a Thomas. Mae hi wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, cyfieithydd a gweinydd digrefydd. Hi oedd enillydd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg 2017 yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mudferwi (Gwasg Carreg Gwalch) oedd ei nofel gyntaf, ac mae ei hail nofel, #Helynt yn rhan o gyfres i bobl ifanc. Mae ysgrifennu yn cymryd dipyn go lew o’i hamser, ond mae hi hefyd yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth roc, darllen a mynd i gerdded.

Yr Enillwyr Saesneg

Salt - Catrin Kean (Gwasg Gomer)

Lle brwnt a diflas yw Caerdydd yn 1878 i Ellen sy’n breuddwydio am ddianc o’i bywyd yn gwasanaethu. Mae’n syrthio mewn cariad gyda Samuel ac yn llwyddo i wireddu ei breuddwyd trwy redeg i ffwrdd gydag ef. Ond mae bywyd ar y môr yn beryglus a chreulon, a phan mae’n dychwelyd adref mae’n darganfod bod caledi bywyd y dosbarth gweithiol a hiliaeth yn dechrau gwenwyno eu bywydau.

Dyfarnwyd lle i CATRIN KEAN ar gynllun Awduron Wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli ar gyfer egin awduron yn 2016-2018. Mae ei straeon byrion wedi eu cyhoeddi yn y Riptide Journal, Antholegau  Bridge House a The Ghastling. Derbyniodd Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru yn 2020 ar gyfer datblygu ei chyfrol o straeon byrion, Fogtime. Salt yw ei nofel gyntaf. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd gyda’i phartner a dau o gŵn cefngrwm.

Come Down - Fiona Sampson (Corsair Poetry)

Cwestiynau am ddynoliaeth ac am safbwyntiau sydd yn ganolbwynt i gyfrol newydd Fiona Sampson, Come Down.

Trwy gydol y gyfrol, symuda’r cerddi rhwng safbwynt dynol a’r hyn sydd y tu hwnt. Dawnsia’r iaith dros ddeunydd y corff dynol a’r tirwedd. Er gwaethaf y newid radical mewn safbwyntiau, cadwa’r bardd lygad cyson ar y profiad dynol: y weithred o greu; a’r ffordd mae atgof plentyn a chwedlau teulu yn gwrthdaro â’r gorffennol.

Mae’r gyfrol yn cloi â cherdd hir, eponymaidd, sydd yn llifo’n grefftus trwy wahanol ffurfiau o atgofion.

Mae FIONA SAMPSON wedi cyhoeddi dau ddeg naw o lyfrau. Y diweddaraf oedd In Search of Mary Shelley (2018), ac mae hi wedi derbyn sawl gwobr genedlaethol a rhyngwladol am ei barddoniaeth. Mae hi’n Gymrawd y Royal Society of Literature, wedi derbyn MBE am ei gwasanaeth i lenyddiaeth, ac wedi cyhoeddi mewn tri deg saith o ieithoedd. Mae hi nawr yn byw mewn hen ffarm yn un o gymoedd y gororau.

Lady Charlotte Guest: The Exceptional Life of a Female Industrialist - Victoria Owens (Pen & Sword)

Pan briododd y Fonesig Charlotte Bertie y meistr haearn cyfoethog John Guest o Ddowlais yn 1833, roedd ei pherthnasau wedi’u brawychu. Serch hynny, er y gwahaniaeth mawr yn eu cefndir a’u hoedrannau, mwynhaodd y gŵr a’r wraig dros bedair mlynedd ar bymtheg hapus o briodas ynghyd â sawl anturiaeth.

VICTORIA OWENS oedd enillydd cyntaf Gwobr Straeon Byrion Jane Austen yn 2009, ac mae hi’n awdur cyhoeddedig ffuglen a gwaith ffeithiol. . Cyhoeddwyd ei nofel Drawn to Perfection gan Hookline yn 2013; cyhoeddwyd ei astudiaeth James Brindley and the Duke of Bridgewater – Canal Visionaries gan Amberley Publishing yn 2015; ac Aqueducts and Viaducts of Britain ym mis Mawrth 2019.

 

Daeth Victoria ar draws Lady Charlotte yn ei rôl fel Meistr Haearn Dowlais wrth astudio treftadaeth ddiwydiannol De Cymru gan fod ganddi ddiddordeb yn hanes peirianyddiaeth, ac roedd yn benderfynol o ysgrifennu amdani.

The Infinite - Patience Agbabi (Canongate Books)

Mae’r Neidwyr, y plant hynny sydd wedi eu geni ar y 29ain o Chwefror, yn brin. Yn fwy prin fyth, mae’r Neidwyr sydd â’r Anrheg – y gallu i gamu trwy amser.

Mae gan Elle Bíbi-Imbelé Ifíè Yr Anrheg, ond nid yw hi wedi ei ddefnyddio. Tan nawr. Ar ei phen-blwydd yn ddeuddeg, teithia Elle a’i ffrind Big Ben i’r Time Squad Centre yn 2048 a derbynia Elle arwydd rhyfedd o’r dyfodol.

Mae’r Neidwyr eraill yn diflannu mewn amser – ni allai ymddiried ym mhawb. Yn fuan, datblyga antur Elle yn fwy na ras trwy amser. Mae’n ras yn erbyn amser. Mae’n rhaid iddi gwffio i achub y byd fel mae’n ei adnabod – cyn iddo beidio â bodoli…

Ganed PATIENCE AGBABI yn Llundain yn 1965 i rieni o Nigeria. Treuliodd ei harddegau yn byw yng Ngogledd Cymru, ac mae hi erbyn hyn yn byw yng Nghaint gyda’i gŵr a’i phlant. Mae hi wedi bod yn cyfansoddi barddoniaeth ers ugain mlynedd, a The Infinite yw ei nofel gyntaf. Fel y prif gymeriad yn y llyfr, mae hi wrth ei bodd â gwibio, rhifau, a chawl pupur, ond, yn anffodus, nid yw ei neidio cystal.