Enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2025
Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2025 – Noddir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd
a Gwobr Ffeithiol Greadigol
Camu, Iola Ynyr (Y Lolfa)
Yn nhudalen agoriadol Camu, a gyhoeddwyd gan Y Lolfa, dywed Iola Ynyr fod y llyfr yn “ymgais i berchnogi fy mywyd a’m hatgofion drwy greadigrwydd” yn dilyn colli cyfnodau i alcoholiaeth, trawma a salwch meddwl. Ysgrifau hunangofiannol sydd yma, sy’n ymgais i ollwng gafael ar ofn ac ymddiried ei bod hi’n ddiogel. Aiff ymlaen i wahodd y darllenydd i ddod gyda hi ar y daith: “tyrd efo fi i gymryd y cam cyntaf i fyd fy nghofio creadigol. Pwy a ŵyr, efallai y cei dithau ysfa i chwarae’n greadigol efo dy atgofion dy hun.”
Dywedodd Gwenllian Elis ar ran y panel beirniadu: “Dyma lyfr sydd wedi llwyddo i’n cynnal o’r llinell gyntaf i’r dudalen olaf. Mae hi’n gyfrol greadigol, grefftus sy’n dilyn taith yr awdur drwy ei bywyd. Mae ganddi hi feistrolaeth dros yr iaith ac mae’r dweud yn ysgytwol. Mae Iola yn dinoethi ei hun yn llwyr wrth drafod ei dibyniaeth alcohol, ond mae o’n daith at wellhad ac yn neges i ni gyd, dim ots faint oed ydan ni, i weld gwerth yn ein hunain. Er fod ‘na dywyllwch, er fod ‘na dristwch ma ‘na dynerwch a chariad yn bodoli rhwng y cloria’.”
Mae Iola Ynyr yn awdures, dramodwraig, cyfarwyddwraig a hwylusydd gweithdai cyfranogol. Mae’n angerddol dros hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau trwy greadigrwydd wrth gysylltu gyda’r byd naturiol. Mae ei phrosiectau cyfranogol yn cynnwys Ar y Dibyn, prosiect gan Theatr Cymru ar gyfer unigolion sydd yn byw gyda dibyniaeth, Gwledda i Llenyddiaeth Cymru yn hyrwyddo llesiant wrth wynebu heriau newid hinsawdd, ynghyd â MWY, prosiect creadigol i ferched a’r rhai sydd yn uniaethu yn fenywaidd. Llwyfannwyd ‘Ffenast Siop’ gan Theatr Bara Caws yn ddiweddar, drama y cyd-ysgrifennodd Iola gyda Carys Gwilym.
Wales Book of the Year 2025 – Noddir gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd
a’r Wobr Ffuglen – Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies
Clear, Carys Davies (Granta)
1843. Ar ynys anghysbell yn yr Alban, mae Ivar, yr unig breswylydd, yn byw bywyd o unigedd tawel tan y diwrnod y mae’n dod o hyd i ddyn yn anymwybodol ar y traeth islaw’r clogwyni. John Ferguson yw hwn, gweinidog eglwysig tlawd a anfonwyd i gicio Ivar allan a throi’r ynys yn dir pori i ddefaid. Heb fod yn ymwybodol o fwriadau’r dieithryn, mae Ivar yn ei gymryd i’w gartref, ac er gwaethaf y ffaith nad oes gan y ddau ddyn iaith gyffredin, mae cwlwm bregus yn dechrau ffurfio rhyngddynt. Yn y cyfamser ar y tir mawr, mae gwraig John, Mary, yn aros yn bryderus am newyddion am ei genhadaeth.
Yn erbyn cefndir garw’r fan bell hon y tu hwnt i Shetland, mae drama agos atoch Carys Davies yn datblygu gyda thensiwn a thynerwch: astudiaeth grisialaidd o bobl gyffredin wedi’u bwrw gan hanes ac archwiliad pwerus o’r pellteroedd a’r cysylltiadau rhyngom. Wedi’i strwythuro’n berffaith ac yn synnu ym mhob tro, mae Clear yn rhyfeddod o adrodd straeon, nofel fer goeth gan feistr ar y ffurf.
Mae Carys Davies yn awdur dwy nofel, The Mission House (Granta, 2020) a West (Granta, 2018), a enillodd wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn Cymru, a ddaeth yn ail yn y categori Gwobr McKitterick Cymdeithas yr Awduron, ac a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Folio Rathbones. Mae ei straeon byrion wedi cael eu cyhoeddi’n eang mewn cylchgronau ac antholegau ac wedi’u darlledu ar BBC Radio 4, ac maent wedi ennill Gwobr Datgelu Ffuglen Jerwood, Gwobr Olive Cook Cymdeithas yr Awduron, Gwobr V S Pritchett Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth, a Gwobr Awduron y Gogledd. Enillodd ail gasgliad Davies, The Redemption of Galen Pike, Wobr Stori Fer Ryngwladol Frank O’Connor 2015.