Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl ac undydd i ysgolion cynradd, uwchradd, prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill. Mae pob cwrs yn unigryw.

Rydym yn gweithio gyda’r athrawon / tiwtoriaid i drefnu cyrsiau wedi eu teilwra, gan gynnig dewis o genre, cynnwys a thiwtoriaid addas ar gyfer y grŵp. Mae Tŷ Newydd yn cynnig awyrgylch ysbrydoledig, yr amser, gofod a hunan-hyder i’r bobl ifanc archwilio eu potensial fel awduron. Byddant yn derbyn cyngor a mentora gan awduron proffesiynol ac yn mwynhau cyfleoedd i deimlo, ymateb a rhannu drwy ysgrifennu.

Bydd yna sesiynau grŵp, sesiynau un-i-un gyda’r tiwtoriaid, darlleniadau, a chyfle i’r disgyblion a’r myfywyr weithio’n unigol ar eu hysgrifennu. Bydd pawb yn byw gyda’i gilydd yn Nhŷ Newydd ar gyrsiau preswyl, ac mae’r awyrgylch yn hamddenol ac yn anffurfiol. Mae’r disgyblion a’r myfyrwyr yn helpu eu hunain i frecwast a chinio ac yn helpu, fel rhan o dîm, i baratoi un pryd fin nos i weddill y grŵp. Gallwn gysgu hyd at 20 o ddisgyblion neu fyfyrwyr.

Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Nôl i Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd