Dewislen
English
Cysylltwch

Croeso i Nant; hen fwthyn Gradd II* sydd wedi ei ail gynllunio’n arbennig ar gyfer encilion ysgrifennu. Wedi ei leoli ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, mae’r bwthyn hunan-arlwyo yma yn darparu hafan gyffyrddus a thawel i unrhyw un sydd angen canolbwyntio ar waith ar y gweill, ychwanegu’r manylion olaf un i’ch gwaith ysgrifennu, neu i ailgynnau eich creadigrwydd.

Yn eistedd rhwng y môr a’r mynyddoedd, mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wedi ei lleoli ym mhentref Llanystumdwy yn agos i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Pen Llŷn. Mae milltiroedd o lwybrau arfordirol a choedwigol gerllaw i’w harchwilio ac i ysbrydoli.


Gwybodaeth Ymarferol

Cynlluniwyd y bwthyn yn arbennig i ddarparu gofod pwrpasol a thawel i chi ganolbwyntio ar ysgrifennu. Mae Nant yn cynnwys: cegin fawr fodern, dwy ystafell wely ddwbl â gwelyau maint King sydd â desgiau ysgrifennu, ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn. Mae Wi-Fi ar gael drwy’r tŷ, ac mae ardal eistedd glyd yn aros amdanoch yn y lolfa ar ôl diwrnod hir o ysgrifennu.

Mae encilion ar gael am arosiadau tair noson (Gwener i Llun), pedair noson (Llun i Gwener), neu saith noson (Llun i Llun). Fel arfer, bydd gan ymwelwyr fynediad i erddi Tŷ Newydd, ein casgliadau llyfrgell eang, a bydd staff Llenyddiaeth Cymru bob amser ar gael i drafod ein rhaglenni a’n cyfleoedd Datblygu Awduron. Hunan-arlwyo yw’r encilion, mae gan y bwthyn gegin fawr fodern gyda phopty, microdon, tegell a thostiwr. Tra fod cyrsiau preswyl yn digwydd yn y ganolfan, gall opsiynau arlwyo fod yn bosib am ffi ychwanegol. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Mae’r prisiau, sy’n cychwyn o £300, yn seiliedig ar un person yn aros i sicrhau eich bod yn derbyn y tawelwch a’r heddwch sydd ei angen i ganolbwyntio. Fodd bynnag mae dwy ystafell wely, ac os hoffech archebu lle i ddau bydd posib gwneud hynny am ffi ychwanegol fechan:

 

Nosweithiau Pris 1 awdur Pris 2 awdur
Llun – Gwener (4 noson) £400 £500
Gwener – Llun (3 noson) £300 £375
Llun – Llun (7 noson) £650 £800

 

I archebu encil, cysylltwch â ni neu, am ragor o fanylion am Encil Awduron Nant, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

Nôl i Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd