Cyfleoedd
Croeso i dudalen cyfleoedd Llenyddiaeth Cymru, sydd yn cynnwys casgliad o gyfleoedd llenyddol mewnol ac allanol, o gystadlaethau i breswyliadau, o Gymru a thu hwnt. Pe hoffech i ni hyrwyddo unrhyw gyfle ar eich rhan, ebostiwch ni: post@llenyddiaethcymru.org
Cyfleoedd Llenyddiaeth Cymru
Rhaglen Datblygu Awduron
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o lansio rhaglen o webinarau rhad ac am ddim i ysbrydoli ac addysgu awduron Cymru dros y misoedd nesaf. Bydd cyfle i gwrdd â golygyddion gweisg, awduron llwyddiannus a’r rhai sy’n gweithio o fewn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt. Porwch drwy’r rhaglen a cofrestrwch heddiw!
Cyrsiau ac Encilion Tŷ Newydd
Mae gennym ddewis eang o gyrsiau ac encilion creadigol ar gael yn Nhŷ Newydd – ein Canolfan Ysgrifennu Cenedlaethol. Porwch drwy’r holl gyrsiau ac encilion sydd ar gael.
Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad – 3 Rhagfyr (12.00pm hanner dydd)
Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, yn falch o wahodd awduron Byddar a/neu Anabl a/neu’n Niwroamrywiol sydd yn byw yng Nghymru i ymgeisio am le ar ein rhaglen Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad, sy’n cynnwys cwrs preswyl gyda tiwtorialau un-i-un ar-lein i ddilyn yn ystod gwanwyn-haf 2026. Encil Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu’n Niwroamrywiol ymuno â chwrs preswyl ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd rhwng 27-29 Mawrth 2026 – Llenyddiaeth Cymru
Sgwad ‘Sgwennu Genedlaethol – 15 Rhagfyr (5.00pm)
Mae Llenyddiaeth Cymru yn gwahodd awduron ifanc ledled Cymru i wneud cais i fod yn rhan o Sgwad ’Sgwennu Genedlaethol ar gyfer 2026–2027.
Wedi’i hanelu at bobl ifanc 16–18 oed, dyma gyfle unigryw i awduron yn eu harddegau i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu, gweithio â mentoriaid proffesiynol, a bod yn rhan o gymuned greadigol fywiog. Mae croeso i’r rhai sy’n ysgrifennu yn Gymraeg, Saesneg, neu mewn sawl iaith i ymgeisio. Nid oes angen profiad ffurfiol na helaeth ar ymgeiswyr, dim ond angerdd dros stori dda ac ymrwymiad i’w crefft. Sgwad ’Sgwennu Genedlaethol 2026–2027: Ceisiadau ar agor! – Llenyddiaeth Cymru
Swyddi
Bywydau Creadigol: Prif Weithredwr – 24 Tachwedd
Mae Bywydau Creadigol yn chwilio am Brif Weithredwr newydd. Yn Bywydau Creadigol rydym yn hyrwyddo creadigrwydd bob dydd ledled y DU ac Iwerddon, gan sicrhau bod grwpiau gwirfoddol yn ffynnu ac yn cael eu cydnabod fel rhai hanfodol i lesiant cymunedol.
Bydd ein Prif Weithredwr newydd yn gynullydd, cydweithredwr a strategydd medrus a diplomyddol, yn arweinydd sefydliadol enghreifftiol, ac yn eiriolwr pwerus dros greadigrwydd fel gyrrwr cysylltiad cymdeithasol a chydlyniant.
- £64,752 y flwyddyn + buddion
- Gweithio o bell o unrhyw le yn y DU
Prif Weithredwr | Arts Council of Wales
Galwadau
Hack Publishing – Parhaus
Mae Hack Publishing yn chwilio am 10 awdur i ymuno ar brosiect cyffrous fydd yn archwilio gwaith nawr, a diwylliant gwaith yn y dyfodol. Bydd y prosiect ar ffurf casgliad o draethodau gyda 10 persbectif gwahanol, er ein bod yn annog awduron i arbrofi gyda genre.
Yn ogystal, maent yn chwilio am awduron i gyfrannu at eu rhifyn newydd o’r cylchgrawn. Gwytnwch yw thema’r rhifyn cyntaf. Gall awduron anfon gwaith o unrhyw genre hyd at 3,500 o eiriau. Dyma gyfle i awduron newydd weld eu gwaith wedi ei gyhoeddi ar y cyd ag eraill.
Mae’r manylion llawn draw ar eu gwefan.
Wasafiri: Galwad am Bapurau a Gwobr Traethawd – Parhaus
Mae Wasafiri yn agored ar gyfer cyflwyniadau o erthyglau a thraethodau beirniadol, adolygiadau, a chyfweliadau ar bwnc llenyddiaeth gyfoes. Mae gwybodaeth am y broses gyflwyno ar gael yma.
Dyfernir Gwobr Traethawd Wasafiri i’r traethawd gorau o 5000-8000 o eiriau gan ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa ar bwnc llenyddiaeth gyfoes ryngwladol. Dylid cyflwyno ceisiadau trwy borth cyflwyno Wasafiri wrth ddewis yr opsiwn i’w ystyried ar gyfer y wobr. Bydd yr enillydd yn derbyn £250, cyhoeddiad ei draethawd, sesiwn fentora, a thanysgrifiad blynyddol i Wasafiri.
Mae mwy o fanylion am Wobr Traethawd Wasafiri ar gael yma.
Cylchgrawn Folding Rock – Parhaus
Mae Folding Rock bob amser yn chwilio am y ffuglen a’r llyfrau ffeithiol creadigol gorau yng Nghymru, o Gymru ac sy’n gysylltiedig â hi. Rydym yn derbyn gwaith gan awduron o unrhyw gam ac oedran, ac rydym yn talu am bob darn a gyhoeddwn. Mae galwadau bob amser ar agor ond bydd galwadau thema benodol ar gyfer pob rhifyn yn cael eu gwneud dair gwaith y flwyddyn. Rydym hefyd yn derbyn cynigion am gyfieithiadau, traethodau gweledol a gwaith amlgyfrwng – edrychwch ar ein gwefan am fwy o fanylion: https://foldingrock.com/submit-your-work/
Os ydych chi’n awdur neu’n gyhoeddwr sydd â llyfr allan sy’n gysylltiedig â Chymru, dywedwch wrthym amdano yma: https://foldingrock.com/tell-us-about-a-book/
Storyopolis: Hwylusydd Creadigol – 17 Tachwedd
Dyddiad dechrau: Ionawr 2026. Termau: Contract llawrydd tymor penodol yn cynnwys 38 diwrnod y flwyddyn yn ystod tymor ysgol, rhan amser. Oriau: 10am – 1pm. Dydd Sadwrn. Ffi: £25 yr awr. Lleoliad: Mae Storyopolis wedi’i leoli yn Theatr Volcano ar Stryd Fawr Abertawe
Gan gydweithredu’n agos gyda Chyfarwyddwyr y Prosiect, Tim Barcup a Laura Webb, a’n hwylusydd Creadigol, eich rôl fydd arwain ar weinyddu a chydlynu rhaglen eang Storyopolis o weithgareddau’n seiliedig ar lythrennedd sy’n cael eu darparu yn ein Clwb Dydd Sadwrn. Bydd gennych gyfle i lywio cyfeiriad y prosiect arloesol hwn fel ei fod yn parhau i roi budd i blant a phobl ifanc Abertawe sydd fwyaf ei angen ar gyfer y dyfodol. Cyfleoedd – Volcano Theatre Company
Storyopolis: Cydlynydd Prosiect – 17 Tachwedd
Dyddiad dechrau: Ionawr 2026. Termau: Contract llawrydd tymor penodol yn cynnwys 38 diwrnod y flwyddyn, rhan amser. Oriau: 10am – 1pm. Dydd Sadwrn. Ffi: £33.00 yr awr. Lleoliad: Mae Storyopolis wedi’i leoli yn Theatr Volcano ar Stryd Fawr Abertawe.
Gan gydweithredu’n agos gyda Chyfarwyddwyr y Prosiect, Tim Barcup a Laura Webb, a’n hwylusydd Creadigol, eich rôl fydd arwain ar weinyddu a chydlynu rhaglen eang Storyopolis o weithgareddau’n seiliedig ar lythrennedd sy’n cael eu darparu yn ein Clwb Dydd Sadwrn. Bydd gennych gyfle i lywio cyfeiriad y prosiect arloesol hwn fel ei fod yn parhau i roi budd i blant a phobl ifanc Abertawe sydd fwyaf ei angen ar gyfer y dyfodol. Cyfleoedd – Volcano Theatre Company
BBC Writers – 2 Rhagfyr (12pm)
Mae galwad agored BBC Writers nawr ar agor! Oes gennych chi sgript hoffech chi weld yn datblygu? Ewch amdani. Telerau llawn: How to submit a script to us
Cystadlaethau
Eisteddfodau – Parhaus
Cynhelir nifer o Eisteddfodau ar draws Cymru ar hyd y flwyddyn, ble mae modd cystadlu mewn cystadlaethau llenyddol.
Gellir gweld y dyddiadau cau yma, neu ragor o wybodaeth yn fan hyn.