Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig rhagor o gyfleoedd i blant a phob ifanc greu a mwynhau’r byd llenyddol o’u hamgylch beth bynnag eu hoedran, gallu a’u cefndir.
Mae gweithgareddau Llenyddiaeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc yn cynnwys:
Bardd Plant Cymru ac Awdur Ieuenctid Cymru
Llysgenhadon i blant a phobl ifanc yng Nghymru
Awduron ar Daith
Nawdd ar gyfer gweithgareddau lleol yn y gymuned
Slam Cymru
Llwyfan i bobl ifanc fynegi eu hunain wrth berfformio eu gwaith
Sgwadiau Sgwennu’r Ifanc
Cyfleoedd i bobl ifanc weithio gydag awduron proffesiynol
Roald Dahl 100 Cymru
Noddi, hyrwyddo a threfnu gweithgarwch sy’n annog holl blant Cymru i ddarllen ac ysgrifennu
Cyrsiau Ysgoloion Tŷ Newydd
Cyrsiau dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol yng Nghanolfan Ysgrifennu Cenedlaethol Cymru
“Mae ei gwneud yn bosibl i blant ysgol gwrdd ag awdur proffesiynol (nid wyf am ddweud awdur ‘go iawn’, gan fod plant yn awduron go iawn hefyd) yn un o’r ffyrdd gorau i’w hannog i feddwl bod diben i ysgrifennu, a’i fod yn bleserus, a gall arwain at ganfyddiad cyffrous a boddhad parhaus. Mae hefyd yn sbardun gwych ar gyfer darllen. Mae gwaith Llenyddiaeth Cymru wrth ddod â phlant ac awduron proffesiynol ynghyd yn wych – mae o fudd i’r ddwy ochr.”
Philip Pullman
Noddwr Llenyddiaeth Cymru