Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Angharad Price

Cyhoeddwyd Llu 16 Meh 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Angharad Price

Holi’r Awdur: Angharad Price

Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?

Pan ddechreuais ddarllen go-iawn yn blentyn, dwi’n meddwl. Roedd y syniad eich bod yn medru creu bydoedd a chymeriadau trwy eiriau yn debyg i hud a lledrith i mi. Yn raddol dechreuais ddymuno gwneud hynny fy hun.  

Hefyd roedd ’na bleser mewn iaith ac ieithoedd, ac felly roedd yr ysfa i greu trwy drin a thrafod geiriau’n dod yn naturiol, am wn i. 

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

Popeth a phawb. Pobl, llyfrau, rhaglenni radio a theledu, ffilmiau, celf a cherddoriaeth, syniadau… Mae ’na ddylanwadau mewnol hefyd, fel yr angen i ddeall profiadau’n llwyrach a thrio rhoi anfarwoldeb i bethau. Mae rhywun yn chwilio am drefn a ffurf a phatrymau ystyrlon trwy sgwennu, ond maena frwydr barhaus (a diddorol) yn erbyn y teimlad o anhrefn, ac anobaith, ac ofn angau. 

Beth yw eich hoff lyfr neu awdur?

Anna Karenina gan Leo Tolstoy, heb os nac oni bai. Wedyn Daniel Deronda gan George Eliot. Ac unrhyw lyfr gan R. T. Jenkins. Fo ydi un o fy hoff awduron Cymraeg. Mae o’n gwneud i mi deimlo fel petai’n hanes a’n diwylliant ni’n saff. 

Hoff lyfr o’ch plentyndod?

Un ohonyn nhw oedd Mari Trwyn-Smwt gan Morfudd Williams. Dwi’n cofio edmygu’r gwningen hunan-gynhaliol oedd yn gofalu am ei gardd ei hun ac yn darllen papur newydd (‘Y Moron Dyddiol’). Diolch i ffrind, cefais ailddarllen y llyfr yn ddiweddar. Am siom! Roeddwn wedi anghofio’n llwyr – wedi dileu o’r cof – fod Mari priodi’r Brenin yn nes ymlaen, sef Sionyn, un o’r ‘Cwningod Dof’, a hynny ar ôl cael perm. Mi gollodd y llyfr rywfaint o’i swyn braidd.  Ond mae’r penodau cyntaf, gan gynnwys y darluniau, yn dal i fynd â mi i le hapus, er gwaetha’r happy ending 

Beth ysgogodd y syniad ar gyfer eich llyfr?

Mae Nelan a Bo wedi bod ar fy meddwl ers blynyddoedd maith, felly mae’n anodd gwybod beth oedd yr ysgogiad gwreiddiol. Ond un ysbrydoliaeth i ffurf derfynol y nofel oedd gweld brân yn hedfan i mewn ac allan trwy dwll yn ffenest Capel Bethel, y capel roeddwn yn mynd iddo’n blentyn. Ei llais hi sy’n fframio’r stori sy’n cael ei hadrodd yn y nofel. 

Allwch chi ddarllen ychydig o’ch llyfr inni os gwelwch yn dda?

Pwy ddylai ddarllen eich llyfr a pam?

Dydw i ddim yn ddigon haerllug i feddwl y dylai neb ddarllen unrhyw beth dwi wedi’i sgwennu! Ond os ydych wedi cerdded heibio i gapel gwag a phendroni am yr hanes y tu cefn iddo, efallai y bydd Nelan a Bo yn cyfleu un wedd ar yr hanes hwnnw, gan gynnwys yr angerdd a’r tlodi enbyd. Rydym yn dueddol o beidio â chymryd llawer o sylw on capeli erbyn hyn, ond mae ganddyn nhw rôl bwysig yn ein hanes ni. 

Eich hoff le yn y byd a pam?

Dwi’n angerddol o hoff o Arfon, sef yr ardal y magwyd fi ynddi. Mae’r dirwedd, a’r hanes, a’r diwylliant yn golygu llawer i mi fel sy’n amlwg yn Nelan a Bo. Ond mae hynny’n sylfaen wedyn i werthfawrogi pobman arall. 

Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?

Mae bod ar restr fer LLYF 2025 yn golygu llawer iawn. Mae’n hwb i ddal ati i sgwennu, yn un peth. Dwi’n teimlo’n eithriadol o ddiolchgar am y gydnabyddiaeth, ac mae’n fraint cael bod ar y rhestr yng nghwmni sgwenwyr eraill dwi’n eu hedmygu’n fawr iawn. 

 

Yng Ngeiriau’r Beirniaid…

Darllen / Gwrando Pellach:

Erthygl BBC Cymru Fyw – Pum munud gyda… Angharad Price

Nelan a Bo | Y Lolfa

Prynu copi o’r llyfr – Nelan a Bo  | Angharad Price | Y Lolfa

Blog, Llyfr y Flwyddyn