Dewislen
English
Cysylltwch

Taith Dathlu Llyfr y Flwyddyn Mari George

Cyhoeddwyd Gwe 4 Hyd 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Taith Dathlu Llyfr y Flwyddyn Mari George

Rydym yn falch o rannu y bydd Prif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024, Mari George, yn mynd ar daith o amgylch Cymru i ddathlu ei llwyddiant gyda darllenwyr a llên garwyr.

Am un penwythnos arbennig, o ddydd Iau 17 i ddydd Sadwrn 19 Hydref, bydd Mari George yn ymweld â naw lleoliad gwahanol mewn partneriaeth â naw siop lyfrau i hyrwyddo ei nofel Sut i Ddofi Corryn ac i ddathlu ei champ yn ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024 ym mis Gorffennaf eleni.

Yn ystod y dydd, bydd cyfle i ddarllenwyr gwrdd â Mari a chael arwyddo eu llyfr, gyda digwyddiadau mwy estynedig gyda’r nos. Bydd gwestai adnabyddus yn ymuno â Mari yn y digwyddiadau hynny, gan gynnwys y Prifardd a chyn Fardd Plant Cymru Ceri Wyn Jones, a fydd yn cadeirio’r sgwrs yn Aberteifi, yr awdur ac un o griw Podlediad Colli’r Plot Bethan Gwanas yn ymuno yn y Bala, ac yna bydd y daith yn dod i ben yng Nghaernarfon yng nghwmni’r cyfieithydd a’r Prifardd lleol Rhys Iorwerth.

Dyma’r daith yn ei chyfanrwydd: 

Dydd Iau, 17 Hydref
📍Caban, Caerdydd – 11.00am
📍Siop y Pentan, Caerfyrddin – 2:30pm
📍Siop Awen Teifi, Aberteifi, gyda’r bardd Ceri Wyn Jones yn cadeirio’r sgwrs – 7.00pm
 

Dydd Gwener, 18 Hydref
📍Siop Inc, Aberystwyth – 11.00am
📍Siop Lyfrau’r Seneddd-dy, Machynlleth – 2:30pm
📍Canolfan Gantref (mewn partneriaeth gyda Siop Awen Meirion), gyda Bethan Gwanas yn cadeirio’r sgwrs – 7.00pm
  

Dydd Sadwrn, 19 Hydref
📍Siop Siwan, Tŷ Pawb, Wrecsam – 11.00am
📍Siop Elfair, Rhuthun – 2:30pm
📍Palas Print, Caernarfon, gyda Rhys Iorwerth yn cadeirio’r sgwrs – 7.00pm 

Gwledd o ddigwyddiadau rhad ac am ddim. Ymunwch â Mari am sgwrs a chyfle i holi’r awdur am ei gwaith, yn ogystal â  chyfle i brynu’r nofel arbennig Sut i Ddofi Corryn wedi ei arwyddo.