Dewislen
English
Cysylltwch

Anrhegion llenyddol ar gyfer Nadolig 2021

Cyhoeddwyd Llu 13 Rhag 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Anrhegion llenyddol ar gyfer Nadolig 2021

Rydym yn prysur gyrraedd diwedd blwyddyn heriol arall, ac rydym oll yn edrych ymlaen at ddathlu’r Nadolig a chael saib haeddiannol.

Wrth gwrs, does dim ffordd gwell o ymlacio na dianc i fydoedd newydd gyda llyfr da. Os ydych chi awydd sboelio eich hun ag anrheg, neu’n edrych am syniadau ar gyfer anrheg llenyddol unigryw o Gymru, dyma ni ychydig o ysbrydoliaeth ar eich cyfer.

Mae staff Llenyddiaeth Cymru wedi rhestru eu hanrhegion delfrydol isod:

 

Taleb Tŷ Newydd

Os ydych chi’n chwilio am anrheg unigryw, beth am docyn anrheg Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd? Ar gael fel tocyn £50, £100 neu £150, gall y tocyn anrheg yma gyfrannu at gwrs ysgrifennu creadigol, neu encil ysgrifennu ym mwthyn Nant.  Cyhoeddwyd cyfres newydd o gyrsiau blasu yn ddiweddar, ac mae modd pori drwyddynt yma.

 

100 Poems to Save the Earth – Zoë Brigley a Kristian Evans (Seren Books)

Mae’n planed ar y llwybr tuag at newid catastroffig. Mae’r gyfres hon yn ein gwahodd i ddefnyddio’n synhwyrau’n ofalus, i wrando ar y byd o’n cwmpas, ac i gymryd sylw o’r hyn sydd wedi bod ar goll. Mae’n brysur ddod I’r amlwg mai’r argyfwng fydd yn diffinio’n oes fydd argyfwng yn y ffordd yr ydym yn gweld y byd. Mae’n byd wedi cael ei ecsbloetio am gyfnod rhy hir. Mae’r antholeg cofiadwy hwn yn ein deffro a’n hannog i ymateb i’r bygythiad hwn sy’n wynebu’n hunig blaned.

 

Tu ôl i’r Awyr – Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Dyma nofel arloesol gan awdur ifanc talentog. Mae’n dilyn taith dau gymeriad yn eu harddegau hwyr, Deian ac Anest, a’u perthynas ryfeddol drwy angst eu bywydau. Mae’n nofel sy’n mynd i wneud i chi chwerthin yn uchel, crio, a synnu gan ddawn anhygoel Megan Hunter i dreiddio’n ddwfn i feddyliau dau gymeriad a fydd yn aros yn y cof am amser hir. Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021.

 

Ffosfforws 1 (Y Stamp)

Rhifyn cyntaf y cyfnodolyn barddoniaeth newydd sbon gan Gyhoeddiadau’r Stamp: Ffosfforws. Golygwyd y casgliad cyntaf o 15 cerdd gan Ciarán Eynon, ac mae’n cynnwys gwaith gan Alaw Tomos, Aled Lewis Evans, Elen Roberts, Gareth Evans-Jones, Gwenno Gwilym, John G. Rowlands, Manon Wynn Davies, Meleri Davies, Morgan Owen, Morwen Brosschot, Rhys Trimble, Sian Shakespear, Sion Tomos Owen, Sophie Roberts a Vernon Jones.

 

Murlun Y Tŵr Dŵr Peter Fowler

Print giclée o safon uchel yn dangos Murlun y Tŵr Dŵr gan yr arlunydd byd-enwog Pete Fowler (sydd fwyaf adnabyddus am ei waith gyda’r Super Furry Animals).

Mae’r Murlun y Tŵr Dŵr wedi ei ysbrydoli gan chwedloniaeth Cymru, ac wedi ei osod ar y Tŵr Dŵr yng Ngorsaf Drenau Rheilffordd y Great Western – strwythur rhestredig gradd II sy’n dyddio’n ôl i 1932.

Mae’r print wedi’i lofnodi gan Pete Fowler ac yn un o argraffiad cyfyngedig o 200.

 

Tanysgrifiad O’r Pedwar Gwynt

Mae cylchgrawn llyfrau Cymru, O’r Pedwar Gwynt yn darllen, yn holi ac yn herio; yn adlewyrchu ac yn cwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd.

Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Gwanwyn, Haf, Gaeaf – a chyhoeddir deunydd newydd yn wythnosol ar pedwargwynt.cymru.

 

Four Dervishes – Hammad Rind (Seren Books)

Wedi’i gosod yn y Dwyrain Canol, mae Four Dervishes yn olrhain taith tuag at ddealltwriaeth drwy gyfrwng adrodd stori amlhaenog. Dinoethir cyfrinachau teuluol tywyll, cyflawnir troseddau ac amlygir dolennau cudd rhwng tad a mab, a chaiff cylch bywyd ei gadarnhau, a hynny oherwydd i nam ar y cyflenwad trydan orfodi’r traethydd i wynebu ei amgylchiadau presennol.

 

Deffro (Urdd Gobaith Cymru)

Cyfansoddiadau buddugol Adran Lenyddol Eisteddfod yr Urdd 2020/21. Comisiynwyd dau artist i ddylunio’r gyfrol eleni, Efa Lois o Aberystwyth, Prif Artist Eisteddfod yr Urdd 2018, a Brennig Davies o Fro Morgannwg, Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd 2019. Mae’r gyfrol yn ddathliad o waith rheiny a enillodd wobrau llenyddol yn Eisteddfod yr Urdd 2020/21.

 

The Welsh Way: Essays on Neoliberalism and Devolution (Parthian Books)

Cyfrol sy’n dadlau dros Ffordd Gymreig newydd, un sy’n gwbl radicalaidd a thrawsnewidiol. Dyma alwad am sgwrs wleidyddol fydd yn creu cyfle gwirioneddol am newid.

 

Tanysgrifiad Lucent Dreaming

Mae Lucent Dreaming yn gylchgrawn annibynnol ar gyfer egin awduron ac artistiaid. Mae’n brint sy’n cael ei gyhoeddi dwy waith y flwyddyn, sydd yn cynnwys straeon byrion, barddoniaeth a gwaith celf prydferth, rhyfedd a swrrealaidd gan gyfranwyr ar draws y byd.

 

Y Pump (Y Lolfa)

Set focs o bump nofel fer sy’n cydblethu. Mae Y Pump yn dilyn criw o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Llwyd, wrth iddynt ddarganfod y pwer sydd gan eu harallrwydd pan maen nhw’n dod at ei gilydd fel cymuned. Gyda safbwyntiau unigryw Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat yn ein tywys, down i adnabod realiti cymhleth bod yn berson ifanc ar yr ymylon heddiw. Wedi eu ysgrifennu gan Elgan Rhys, Tomos Jones, Mared, Roberts, Ceri-Anne Gatehouse, Iestyn Tyne, Leo Drayton, Marged E. Wiliam, Mahum Umer, Megan A. Hunter, a Maisie Awen.

 

Print Rhithganfyddiad o Dŷ Newydd

Print wedi ei greu gan yr artist Efa Lois (Rhithganfyddiad) yn ail-ddehongli safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd Llenyddiaeth Cymru yn Llanystumdwy. Daw’r darlun bendigedig o Dŷ Newydd â detholiad o gerdd arbennig wedi ei chreu gan Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru – ‘Ffydd’, i nodi achlysur pen-blwydd y ganolfan yn 30 oed yn y flwyddyn 2020. Maint y print yw A3.