Print giclée o safon uchel yn dangos Murlun y Tŵr Dŵr gan yr arlunydd byd-enwog Pete Fowler (sydd fwyaf adnabyddus am ei waith gyda’r Super Furry Animals).
Mae’r Murlun y Tŵr Dŵr wedi ei ysbrydoli gan chwedloniaeth Cymru, ac wedi ei osod ar y Tŵr Dŵr yng Ngorsaf Drenau Rheilffordd y Great Western – strwythur rhestredig gradd II sy’n dyddio’n ôl i 1932.
Mae’r print wedi’i lofnodi gan Pete Fowler ac yn un o argraffiad cyfyngedig o 200. Caiff unrhyw elw ei ddefnyddio i gefnogi gweithgaredd llenyddol Cymreig, er engraifft y cynllun Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli.
1200mm x 400mm.
Heb ei fframio – £100 + £8 cludiant*
*mae’r cyfraddau postio a phacio a nodir uchod ar gyfer cludiant i’r DU yn unig. Ar gyfer cludiant rhyngwladol, e-bostiwch post@literaturewales.org am ddyfynbris CYN prynu print
Reviews
There are no reviews yet.