Dewislen
English
Cysylltwch

Cynigion Nadolig Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Llu 29 Tach 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynigion Nadolig Llenyddiaeth Cymru

Er mwyn dathlu diwedd blwyddyn heriol, mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig gostyngiad arbennig o 10% ar sawl eitem yn ein siop rhwng y 29 Tachwedd – 3 Rhagfyr, gan gynnwys holl nwyddau print Pete Fowler.

Dyma gyfle perffaith i fachu anrhegion Nadolig unigryw, neu i sbwylio’ch hun, gan gefnogi datblygiad llenyddiaeth Cymreig yn y broses.

Dyma flas o’r eitemau sydd ar gael:

Y Tŵr Dŵr

Print giclée o safon uchel yn dangos Murlun y Tŵr Dŵr gan yr arlunydd byd-enwog Pete Fowler (sydd fwyaf adnabyddus am ei waith gyda’r Super Furry Animals).

Mae’r Murlun y Tŵr Dŵr wedi ei ysbrydoli gan chwedloniaeth Cymru, ac wedi ei osod ar y Tŵr Dŵr yng Ngorsaf Drenau Rheilffordd y Great Western – strwythur rhestredig gradd II sy’n dyddio’n ôl i 1932.

Mae’r print wedi’i lofnodi gan Pete Fowler ac yn un o argraffiad cyfyngedig o 200.

Cofiwch Dryweryn

Casgliad yn cynnwys crys-T a print giclée wedi fframio yn dangos y graffiti Cofiwch Dryweryn gan yr arlunydd Pete Fowler.

Cafodd y graffiti enwog ei beintio i dynnu sylw at orfodi trigolion Capel Celyn o’u cartrefi er mwyn creu cronfa i gyflenwi dŵr i Lerpwl. Mae Cofiwch Dryweryn nawr yn ddelwedd eiconig o’r iaith Cymraeg ac mae’r graffiti wedi cael ei ailbeintio sawl tro dros y blynyddoedd yn dilyn fandaliaeth yn erbyn y gofeb.

Mae’r print yma yn berffaith ar gyfer rheiny sydd yn edmygu gwaith Pete Fowler neu’r neges mae’r darlun yn ei gynrychioli.

Ewch draw i’r siop i weld mwy.