Dewislen
English
Cysylltwch

Darllen Dan Glo

Cyhoeddwyd Iau 4 Maw 2021 - Gan Lleucu Siencyn
Darllen Dan Glo
I nodi Diwrnod y Llyfr eleni, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn sydd yn adlewyrchu ar y profiad o ddarllen yn ystod y cyfnodau clo dros y flwyddyn diwethaf.

 

O ystyried holl heriau’r flwyddyn ddiwethaf, ni fu hi erioed mor bwysig i gefnogi, rhannu a mwynhau llenyddiaeth o bob math er mwyn dod â gobaith a goleuni i’n bywydau. Hyd yn oed yn y cyfnodau dan glo mwyaf llym, mae ein hawduron wedi bod yn holl-bresennol yn ein cartrefi. O’r llyfrau a’r comics buon ni’n eu darllen, i’r podlediadau a’r digwyddiadau byw ar Zoom, i addasiadau epig y sgrin fach, mae dawn a dychymyg yr awdur wedi ein diddanu ac wedi dod â ni at ein gilydd.

Rwy’n hoffi amrywio’r deiet llenyddol wrth ddarllen, ac un o’r nifer o fendithion bod yn ddwyieithog yw fod ganddoch chi ddwbl y dewis ar y fwydlen, boed yn glasuron neu’n gyfrolau “hot off the press”.

 

Mae fy rhestr ddarllen dan glo wedi cynnwys llyfrau gan awduron mor amrywiol â Manon Steffan Ros a Niall Griffiths, Wiliam Owen Roberts a Richard Owain Roberts, Ifan Morgan Jones a John Le Carré, Llio Maddocks a Bernardine Evaristo. Rwy wedi darllen cyfrolau sy’n trafod pynciau mor gymysg eu natur â’r gynghanedd, Alexander Hamilton, hanes hiliaeth, Raymond Williams, a sut wnaeth Love Actually ddinistrio’r Nadolig. O’r Oxford Book of Welsh Verse i Daydreams and Jellybeans i’r flodeugerdd newydd Dweud y Drefn Pan Nad Oes Trefn, mae cyfrolau barddoniaeth wedi bod yn gwmni da drwy gyfnod mor ansicr a heriol.

Mae comics – neu nofelau graffeg i roi’r enw parchus arnynt – wedi apelio’n fawr yn ystod y cyfnod. Fe wnaeth fy mab, sy’n ei arddegau, a finnau ddarllen V for Vendetta gan Alan Moore, gan synnu pa mor ragweledol oedd y stori frawychus hon a gyhoeddwyd yn yr 1980au. Mae darllen llyfrau plant wedi bod yn ddiléit hefyd, gyda fy merch a fi yn ymladd dros ein copïau o Wilde gan Eloise Williams a chyfres Y Melanai gan Bethan Gwanas.

Felly ar Ddiwrnod y Llyfr hoffwn ddiolch o waelod calon i’r awduron, y golygyddion, y cyhoeddwyr, y darlunwyr cloriau, y siopau llyfrau, y llyfrgelloedd, a’r trefnwyr digwyddiadau llenyddol ar Zoom, am ein cadw mor ddiddan wrth i ni ddarllen dan glo. Gobeithio y byddwn yn gallu gweld ein gilydd go iawn cyn hir, gan ddechrau gyda’r frawddeg hyfryd, “Wyt ti wedi darllen…?”