Ffocws ar Fentora Cynrychioli Cymru
“Gadewais y sesiwn yn teimlo’n obeithiol, wedi f’ailgysylltu â’n hun a’m marddoniaeth, ac yn teimlo’n llawn cyffro am y dyfodol. Allwn i ddim bod yn fwy diolchgar.”
– Frankie Parris, aelod o garfan 2022-2023 sy’n cael ei fentora gan Peter Scalpello.
Mae Mentoriaid blaenorol a phresennol y rhaglen yn cynnwys Michael Rosen, Abi Morgan, Patrice Lawrence, Jacob Ross, Inua Ellams, Malika Booker, Sophie Mackintosh, Eloise Williams, a Manon Steffan Ros. Caiff y Mentoriaid eu dewis gan yr awduron eu hunain gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru.
“Fe dorrodd ei hanogaeth drwy fy ansicrwydd, a llwyddais i fod yn ddewr ar y dudalen o ganlyniad.”
–Bridget Keehan, aelod o garfan 2022-2023 sy’n cael ei mentora gan Kerry Hudson.
Mae gan Llenyddiaeth Cymru yn paru awduron â Mentoriaid ers 2004 trwy ein rhaglenni Mentora blaenorol. Ymhlith y Mentoriaid eraill rydyn ni wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol ceir Paul Henry, Lleucu Roberts, Angharad Tomos, Rebecca F John, Samantha Wynne-Rhydderch, Catherine Merriman, Llyr Gwyn Lewis, Ian Gregson, Jonathan Edwards, a Catherine Fisher.
Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog ac rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron sy’n byw yng Nghymru sy’n ysgrifennu yn y Gymraeg a/neu yn Saesneg. Mae croeso hefyd i awduron sy’n arbrofi gyda’r Gymraeg yn eu gwaith neu’n awyddus i ddechrau arni. Mae’r awduron yn derbyn mentora yn yr iaith o’u dewis ac yn cael eu paru’n ofalus â Mentor fydd yn deall eu huchelgeisiau proffesiynol a chreadigol.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen, bu’r awdur a’r dramodydd o Gaerdydd, Nia Morais yn cael ei mentora gan yr awdures arobryn, Manon Steffan Ros. Yn ystod eu sesiynau, derbyniodd Nia, sydd â diddordeb mewn ysgrifennu i bobl ifanc, adborth golygyddol ar ei gwaith creadigol yn ogystal ag arweiniad manwl ar ei gyrfa.
Ynglŷn â’r profiad, meddai Nia:
“Cefais i gyngor hynod o ddefnyddiol gan Manon, yn ogystal ag adborth manwl ar fy ngwaith creadigol wnaeth helpu fi magu hyder. Daeth y mentora mewn cyfnod rili da ar gyfer fy ngyrfa, a rwy nawr yn teimlo lot fwy hyderus i fynd am bethau newydd.”
Ers y rhaglen, mae Nia wedi mynd o nerth i nerth ac mae erbyn hyn yn un o awduron Preswyl Theatr y Sherman. I nodi penblwydd y theatr yn 50, comisiynwyd Nia yn ddiweddar i ysgrifennu sioe Gymraeg o’r enw ‘Imrie’ ac mae hi hefyd ar hyn o bryd yn ysgrifennu straeon i blant ar gyfer gwefan Darllen Co.
Gwyliwch y fideo isod i gael glywed rhagor am brofiadau mentora yr awduron ar y rhaglen:
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer trydedd blwyddyn rhaglen datblygu awduron, Cynrychioli Cymru yw 5.00pm, 25 Hydref 2022. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y rhaglen a sut i ymgeisio.
Caiff Rhaglen Ddatblygu Awduron Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.