Dewislen
English
Cysylltu

From Now On: Jemima Roberts

Cyhoeddwyd Sad 4 Medi 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ch - Dd: Jemima Roberts a darluniad gan Efa Blosse Mason

Detholiad o: Pam ydw i’n nofio mewn moroedd oer

gan Jemima Roberts

 

Mae nofio yn fy ngwaed. Mae’r dŵr sydd yn fy ngwythiennau yr un mor bwysig â’r celloedd sy’n goch. Mae fy Mam, sy’n ddeg a thrigain bellach, yn nofio bob diwrnod o’r flwyddyn gron – glaw neu hindda, cenllysg neu iâ. Does ganddi’r un siwt wlyb gynnes – dim ond dillad nofio cyffredin.

 

Yr wythdegau oedd hi. Oes cyn bod ‘nofio gwyllt’ neu ‘nofio oer’ yn hashnodau ar Instagram, yn bwnc trafod ar deledu’r bore, neu’n destun ymchwil gwyddonol i ffyrdd o osgoi dementia. Bryd hynny, dim ond nofio fydden ni. Nofio, dim mwy a dim llai.

 

Yn blant, cawson ni’n magu ar dyddyn a safai ar hen stad goedwig fawr yn y canolbarth. Roedd nofio yn yr afon fan draw yn rhan o’n magwraeth. Roedd y nant fwyn, fyrlymog, dafliad carreg o’n drws cefn, yn troelli o’r bryn at afon Ystwyth. Afon dipyn lletach oedd honno, i bobl mewn oed.

 

Gan amlaf, bydden ni’n crwydro i lawr at yr ‘Argae’, at ei ddringfa greigiog, ei bwll plymio a’i raeadr swnllyd – a’r cyfan ar waelod y lôn. Ar ddiwrnodau hafaidd pan fyddai’r awyr yn clecian ac yn suo â phryfed a gwres, bydden ni’n mentro ymhellach, gan ddilyn llwybr y frân ar draws y caeau at y ‘Bont Goncrid’ (strwythur concrid erchyll y caniatawyd ei godi, rywsut, gan y Comisiwn Coedwigaeth er mwyn i lwybrau llychlyd y stad allu croesi afon Ystwyth).

 

Roedd y Bont Goncrid, serch hynny, yn cynnig llecyn nofio bendigedig arall – darn helaeth o ddŵr tebyg i lyn, ynghyd â phwt dolennog o afon yng nghysgod coed, lle llwybrai’r lli i lawr y cwm. Dyma le da i lansio rafftiau neu ddingis wedi’u creu o hen diwbiau teiars tractor. Roedd yn lletach ac yn ddyfnach na’r Argae, ac yn fan heb ei ail i blant sblasio a neidio, yn goesau a breichiau i gyd, a’u gwichian yn diasbedain uwch y dŵr.

 

Ar ddiwrnodau eraill, pe na bai Mrs Whitley gartre yn ei thŷ ha’, oedd wedi’i wasgu i gilfach ar lan yr afon nid nepell o’n tŷ ni, bydden ni’n tresbasu’n ddistaw bach drwy’r giât ac ar draws ei gardd. Byddai hyn yn ein harwain at lecyn nofio arall penigamp. Heb fawr o ddychymyg, y ‘Byngalos’ oedd ein henw ni ar fan hyn (roedd dau ohonyn nhw, un bob ochr i’r lôn).

 

Pwll araf, diog oedd hwn, a agorai fel ceg ym mhen gwddf hir o nant. Fe’i cysgodid gan goed helaeth, a’u canghennau cydnerth yn ymestyn dros y dŵr. Roedd y canghennau hyn yn fyrddau plymio rhagorol, a’r pwll yn yr ystum hwn yn yr afon yn ddigon dwfn inni daflu ein hunain dro ar ôl tro i’r lli. Ar brynhawniau o haf hirfelyn y digwyddai hyn, neu yn ystod ambell orig ar ôl ysgol a’n bagiau wedi’u lluchio ar hast i’r gwellt.

 

Yn fy arddegau, fe ddysgais hefyd fod y Byngalos yn lle ardderchog i snorclo. Anghofia’ i fyth y teimlad hudol a ges – sef sylweddoli y gallwn, gyda chymorth syml masg a ‘thiwb’ neu ‘dwndish’ anadlu, aros o dan y dŵr am oriau heb deimlo’r oerfel o gwbl.

 

Roedd cymaint i’w weld o dan y dŵr hefyd – y cyfan yn anweledig, i raddau helaeth, o’r wyneb. Creigiau, ogofâu, craciau, holltau. Cerrig prydferth, darnau suddedig o afon, a broc môr – neu beth bynnag sy’n cyfateb i froc mewn afon. Ambell bysgodyn hefyd – yn saethu heibio fel seren wib, fyth i’w nabod eto. Wastad yn olygfa syfrdanol, ond yn un a roddai hwb i’r galon hefyd. Bywyd yn ffynnu, ochr yn ochr â mi yn yr afon.

 

Byddai ffurf a chymeriad ein llecynnau nofio yn newid dros y tymhorau a’r blynyddoedd. Y cerigos ar waelod yr Argae, er enghraifft – byddai’r rheini’n newid eu siâp yn llwyr yn ystod storm neu pan fyddai’n bwrw hen wragedd a ffyn.

Byddai ‘twyni’ anferth o gerrig yn drifftio o dan y dŵr ac yn crynhoi mewn twmpathau newydd, gan olygu bod yr holl ardaloedd dwfn a bas yr oedden ni’n eu nabod fel cefn ein llaw wedi newid siâp a dyfnder dros nos. Roedd nofio ar ôl storm wastad yn drysu rhywun, gan y byddai’n rhaid teimlo ein ffordd yn ofalus i mewn i’r dŵr, a mapio’r ‘tir’ ar ei newydd wedd. Dod o hyd eilwaith i’r pyllau dwfn a’r dyfroedd basach.

 

*

 

Ar ddiwrnodau heulog, byddwn i’n aml yn mynd i ‘grwydro’r afon’ – dyna fy enw i ar y peth. Byddai hyn yn para sawl diwrnod, fel arfer – a minnau ond yn troi am adre pan fyddwn i ar fy nghythlwng neu wrth i’r haul ddechrau swatio y tu ôl i’r coed.

 

Mewn siorts a chrys-t, neu weithiau mewn sgert neu ffrog – beth bynnag y byddwn i’n digwydd ei wisgo ar y pryd – byddwn i’n dod o hyd i le bach ar lan yr afon lle gallwn lithro i mewn. Yna’n araf ac yn betrus, dechrau cerdded yn erbyn y lli. Byddwn i’n aml yn oedi i gael hoe yn y rhaeadrau bychain ar hyd y ffordd – yn eistedd i fwynhau’r swigod, i grafu fy nghefn, neu i wynebu’r her fawr o beidio â chael fy ngwthio yn ôl gyda’r lli neu oddi ar fy ngharreg. Byddai hyn yn aml yn gwneud imi wichian mewn gorfoledd; mae hyd yn oed y rhaeadrau sy’n ymddangos yn fychain mewn afon yn chwareus o rymus.

 

Wrth edrych yn ôl, rwy’n sylweddoli mai ffordd plentyn o ddod o hyd i’r canol llonydd distaw oedd cerdded yr afon fel hyn, ffordd o geisio heddwch a thawelwch. Ffordd o fyfyrio, bron – ac ymgais ddiniwed i fod yn annibynnol hefyd. Byddwn yn dweud wrth Mam i ble roeddwn i’n mynd – a fyddai hi byth yn fy rhwystro. Felly i ffwrdd â fi’n dawel, ar fy mhen fy hun bach. Roedd yn rhywbeth hynod o gysurlon i’w wneud – y math o beth sy’n annog rhywun i fwmian dan ei anadl – ac yn amlach na heb byddwn wedi diflannu am oriau.

 

Efallai fod rhywfaint o’m dyhead dwfn i fod yn y dŵr, neu’n agos at ddŵr, yn deillio o’r cyfnod hwn. Mewn dŵr y bues i hapusa’ erioed. Yn teimlo cysur a llonyddwch, ac wedi fy adfer yn syth. Boed yn hwylio ar gychod, yn nofio mewn afonydd a chefnforoedd, neu’n byw wrth ymyl y rhain, gan wybod eu bod nhw yno. Efallai fod gan bobl ryw angen cyffredinol, cynhenid yn hyn o beth, hefyd. Os edrychwch chi ar y map, mae’r rhan fwyaf o aneddiadau pobl wedi’u lleoli ar lan dŵr, neu’n agos at ddŵr.

 

Yn wir, rydw i wastad wedi’i chael hi’n anodd dychmygu byw yn unman ymhell o ddŵr. Bydda’ i’n mygu ac yn arswydo’n syth wrth feddwl am hynny – gan deimlo na alla’ i anadlu go iawn. Mae’n beth od, a dweud y gwir, wrth feddwl sut y bydd eich anadl yn dychlamu wrth gamu i ddŵr oer fel iâ yng nghanol gaeaf!