Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Georgia Ruth

Cyhoeddwyd Mer 25 Meh 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Georgia Ruth

Holi’r Awdur: Georgia Ruth

Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?

Dwi’n meddwl falle mai breuddwyd (cyfrinachol) ers plentyndod oedd cael sgwennu llyfr! Oni wastad yn gwybod mai mater o amser fydde hi…

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

Y gorffennol agos, cerddoriaeth, byd natur, fy mhlant, sgyrsiau hefo ffrindie, ffilmiau Pedro Almodovar, Instagram, unrhyw un sy’n dilyn yr awydd ‘na i greu.

Beth yw eich hoff lyfr neu awdur?

Diawl o gwestiwn! Edmygu Edna O’Brien yn fawr. A Jose Saramago. Nhw, falle?

Hoff lyfr o’ch plentyndod?

The Secret Garden gan Frances Hodgson Burnett.

Beth ysgogodd y syniad ar gyfer eich llyfr?

Casgliad cerrig fy mab hynaf! I ddyfynnu Blink 182 – “all the small things”… Oni’n ymwybodol, fwyaf sydyn, bod amser yn hedfan a bo’ fi angen dechrau cofnodi pethau, rhag ofn i mi anghofio.

Allwch chi ddarllen ychydig o’ch llyfr inni os gwelwch yn dda?

Eich hoff le yn y byd a pam?

Dwi’n caru Aberystwyth ar ddiwrnod o Haf.

Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?

Hollol lyfli. Oni wir ddim yn disgwyl y peth, a dwi wrth fy modd.

Eich hoff atgof o Dŷ Newydd?

Dysgu ar y cwrs sgwennu caneuon yn 2024 efo Carwyn Ellis. Roedd grŵp mor arbennig hefo ni – mwynhâd pur!

Darllen / Gwrando Pellach:

BBC Radio Cymru – Aled Hughes, Cyfrol Casglu Llwch, ‘Casglu Llwch’ gan Georgia Ruth

Georgia Ruth – Libraries Wales

Y cerddor o Aberystwyth, Georgia Ruth, yn cyhoeddi ei chyfrol gyntaf yn y Gymraeg | cambrian-news.co.uk

Prynu copi o’r llyfr – Casglu Llwch (9781800995550) | Georgia Ruth | Y Lolfa

Blog, Llyfr y Flwyddyn