Dewislen
English
Cysylltwch

Heledd Melangell – Fy Mhrofiad ar Cynrychioli Cymru

Cyhoeddwyd Llu 31 Maw 2025 - Gan Heledd Melangell
Heledd Melangell – Fy Mhrofiad ar Cynrychioli Cymru

Cofnod blog gan Heledd Melangell wrth i’w chyfnod ar raglen Cynrychioli Cymru ddirwyn i ben. 


Pan ges i’r alwad ffôn mod i wedi cael lle ar raglen Cynrychioli Cymru llynedd yr oeddwn mewn anghrediniaeth pur. Ar ol cael nifer o brofiadau gwael mewn gweithlefydd (yn rhannol oherwydd fy dyslecsia), yr oedd fy hunain hyder reit dila.

Cefais fy arfogi gan raglen Cynrychioli Cymru nid yn unig â gwybodaeth am y diwydiant cyhoeddi, yn ogystal â gwybodaeth am elfennau mwy “technoegol” ‘sgwennu- ond fe roddodd ddos da o hyder imi. Heddiw, teimlaf fel bod be ‘sgen i i’w ddweud yn cyfri. Agwedd arall o’r flwyddyn a elwais ohono oedd y ffaith imi gael cyfle i drafod moeseg ag athroniaeth llên gyda nifer o awduron eraill. Rhywbeth yn enwedig o gymhleth o fewn genre “non-fiction”.

O hedd canolfan ‘sgwennu Tŷ Newydd i fwrlwm Gŵyl y Gelli, o adborth amhrisiadwy gan fentoriaid mawr eu parch i’r arian a ganiataodd i mi gael yr amser angenrheidiol i greu – dyma raglen sydd wedi ei greftu’n ofalus a chywrain ar gyfer datblygiad awduron. Hyd yn oed os oedd unrhyw broblem yn codi, yr oedd staff Llenyddiaeth Cymru bob tro yn gefn i mi ac yr oeddwn yn teimlo’n rhydd i gynnig unrhyw adborth neu godi unrhyw fater.

Yn ystod y flwyddyn yr wyf wedi cael cerdd mewn print am y tro cyntaf, wedi cwblhau ysgrifau a fydd yn cael eu cyhoeddi, wedi ‘sgwennu blogiau sydd wedi cyfrannu at drafodaethau anodd yn ein diwylliant yn ogystal a parhau efo’r gwaith o ‘sgwennu llyfr ynglŷn ag effaith y system garchar (gan ddadansoddi’r gwleidyddiaeth sy’n gefndir i hyn oll). Bydd hwn yn brosiect hirdymor gen i. Wrth edrych ‘nol mae’r pethau yma’n syndod mawr imi o ystyried sut oedd pethau yn fy mywyd rhai blynyddoedd yn ôl.

Yng nghyd-destun toriadau rhemp gan Llywodraeth Cymru i’r sector yma, dwi’n teimlo’n ffodus iawn i fod wedi cael y profiad yma, ac yn bryderus ni chaiff cyw ‘sgwennwyr y dyfodol fel fi gyfle o’r fath. Mae wedi helpu i mi adeiladu cymuned, wedi codi fy hyder a wedi fy maethu ag angerdd dros ‘sgwennu yn sgil colli fy hunaniaeth ar ôl newidiadau mawr a ddigwyddodd yn fy mywyd rhai blynyddoedd yn ôl.

Nid gormodedd yw dweud bod y rhaglen yma gyda’r potensial o fod yn rhan o newid bywyd rhywun. Dwi’n cymryd fy hyn a fy ‘sgwennu o ddifri rwan, er i mi dal i ddioddef y syndrom y “ffugiwr” (impostor) mae profiadau llynedd wedi rhoi’r tystiolaeth i mi fod gwerth i fy ngwaith. Diolch o galon i Llenyddiaeth Cymru am bopeth a pob lwc i criw 2025-26!


Isod ceir enghraifft o waith creadigol gan Heledd Melangell.

Gwythiennau

Rhwng cerrig manion gardd tŷ newydd ymlwybra gwythiennau. Gwythiennau a gludai maeth o’r tŷ i fedd Lloyd George. Caer o ddyn. Yn ei oes adeiladodd Prydeindod Cymreig ar gefn trefedigaethu. Ymrannu’r dwyrain canol, Iwerddon yn ogystal a chreu gwladwriaeth Israel. Yr oedd hyn er mwyn bodloni ei gyfoedion gwrth-semitaidd. Doedden nhw ddim eisiau “ton” o Iddewon ddod yma ar ôl chwalfa’r ail ryfel byd. 

Dyn a amsugnai grym a nerth drwy gyfrwng ymerodraeth, ar ran y wladwriaeth a gynrychiola – nawr, yn ei fedd, bwydai ar enaid “Canolfan Ysgrifennu Creadigol Cymru” – Tŷ Newydd. 

Caiff llawer eu swyno gan naws hudolus yr adeilad a’i erddi. Dros fytholeg Lloyd George a Syr Clyff Williams Elis. Drwy rinwedd yr egni sy’n crynhoi yma bob penwythnos, bwyda ein cyn prif-wenidiog fel parasit ar feddyliau’r llenorion wrth iddynt gysgu. 

Bob nos deffroa’r tŷ – rhyddha bacteria i bob ystafell a dadfeilia’n gynnil ag gofalus yr “egni creu”. Trosai’r bacteria yr egni mewn i gompost diriaethol. Echdynna’r sylwedd yn enwedig o’r mannau ble caiff y sylwedd ei grynhoi. Yn y trwynau, llygaid, dwylo a chlustiau a’r tafod. 

Dadfeilia’r bacteriwm sylwedd creadigol a bontiai’r bydysawd yma ag annwn. Ceir y sylwedd ei amsugno lawr trwy’r gwely, treiddiai’r gronynnau anweledig o fach drwy’r llawr, ym mer y waliau ac yna lawr i galon a gwythiennau’r tŷ byw.

Cafai’r sylwedd ei gludo drwy gydol y nos drwy’r gwythiennau garw ac i fedd Lloyd George. Yno mae’n farw byw. Yn ei arch clud, mae wedi ei gloi’n gyfyng ond dal i fodoli. Tragwyddoldeb trychinebus, ond tragwyddoldeb serch hynny. Dyma amcan ymerodraeth, dyma’i amcan o. Byw er mwyn bod – a throsgynnu ei feirioldeb llipa. Yn dragwyddol lorweddol, yn sownd yn ei arch, ond yn gallu dianc o’i garchar trwy freddwydion.

Er mor atgas yw bodoli mewn carchar tanddaearol teithia Lloyd George drwy lwybrau trwmgwsg. Yn gweld, teimlo a clywed ond yn methu a rheoli naratif y stori. Cai ei fwydo gan freuddwydion tanbaid y sgwennwyr a beirdd sy’n preswyla yn Nhŷ Newydd, ar ôl diwrnodau tesog o gyd-greu. 

Nawr ac yn y man bydd seici chwaliedig unigolyn yn suro a gwenwyno’r pair. Gall un anaf-enaid leoli Lloyd George mewn hunllef barhaus am wythnos gyfan tan i’r criw nesa’ yn cyrraedd. Weithia bydd hunllefau gan un person yn dod an ol ato blynyddoedd ar ol iddynt adael y ty.

Dydi hyn ddim yn digwydd yn aml iawn, ond digon aml iddo fod yn peri gofid iddo. Roedd cael rhywbeth allan o’i reolaeth i’r fath raddau yn ei gynddeirio, ond rhaid iddo oddef ag aros.

Mae gan bob briw ei darddiad, a tharddiad systemig yn y pen draw ydi’r mwyafrif llethol. Systemau wedi eu personoli ydym ni gyd. Sachau o gnawd yn ymateb i’n hamgylchedd. 

Yn hen ddyddiau elitaidd Tŷ Newydd, ble dim ond pobl ag arian allai fforddio ddod i ‘sgwennu, yr oedd y fath hunllefau’n digwydd llai aml. Anaml caiff ei grasu a’i phoenydio gan hunllefau o’r fath ansawdd ag eglurdeb a heddiw. Ers tair blynedd, dechreuwyd raglen “‘Sgwennu i’r Ymyledig” a  bu pobl fwy “amrywiol” yn mynychu yn rheolaidd dan nawdd elusen. Dechreua’r hunllefau fynegi eu hunain mwy a mwy aml, a fwyfwy llethol yn eu nerth. 

Systemau perodd yr anafiadau amrywiol i seici’r pobl yma – ac mae fel petai y cawsai ei boenydio gan y system batriarchaidd a trefedigaethol yr oedd yn ei weinyddu yn ei fywyd. Roedd rhaid iddo weithredu ar hyn.