Dewislen
English
Cysylltwch

Hirddydd | Ffilm #1 Plethu/Weave

Cyhoeddwyd Iau 20 Awst 2020 - Gan Mererid Hopwood
Hirddydd | Ffilm #1 Plethu/Weave
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Mererid Hopwood fel rhan o brosiect Plethu/Weave, prosiect trawsgelfyddyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

Y nawfed o Fehefin oedd y tro cyntaf i mi gael cyswllt â Tim Vollemann a hynny drwy neges e-bost yn cynnig cwrdd ar FaceTime, Teams, Zoom, Signal neu Jitsi. Wedi dau fis ac ychydig o’r Meudwyo Mawr, roeddwn i’n falch fy mod erbyn hynny’n gyfarwydd â’r tri chynnig cyntaf o leiaf, a dyma drefnu cyfarfod wyneb-yn-wyneb-ond-o-bell ddydd Gwener y 12fed. Roedd angen ymateb yn gyflym gyda’r cywaith cyfan i fod yn barod o fewn y mis.

Fel mae’n digwydd, roedd y cyfnod yn cyd-daro gydag ymgyrch Cymdeithas y Cymod i gofio 80 mlynedd ers y Chwalfa Fawr ar fynydd Epynt. Ar y 30ain o Fehefin, hirddydd haf, 1940 a’r Ail Ryfel Byd wedi cael gafael yn ofnau gwaethaf pobl, disodlwyd 219 o drigolion yr hen fynydd a’u troi allan yn ddirybudd ac yn ddiymgeledd gan rymoedd y Lluoedd Arfog. Roedd mwy o angen y tir i ymarfer lladd nag i dyfu cnydau a chymdogaethau. A thros nos, chwalwyd canrifoedd a chenedlaethau o gymwynasgarwch.

Hyd heddiw mae’r fyddin Brydeinig yn parhau i ymarfer lladd ar tua 40,000 o erwau’r ardal, ac enwau cyn dlysed â Gilfach yr Haidd, Ffrwd Wen, a Disgwylfa yn ddim ond adlais ar anadl y gwynt.

Roedd hi hefyd wrth gwrs yn gyfnod y rhagbaratoadau ar gyfer yr Eisteddfod AmGen, a’r trefnwyr egnïol wedi penderfynu bod angen deunydd am y ddeng wythnos cyn yr wythnos fawr draddodiadol, sef wythnos gyntaf Awst. Fel rhan o hynny, roeddwn wrthi’n ceisio rhoi trefn ar ddarlith fyddai’n mynd i’r afael mewn rhyw ffordd â mater Epynt ac â militareiddio Cymru …

‘A thina’r meddilie’, chwedl Dewi Emrys, oedd yn llenwi fy mhen pan daeth ‘brrlip brrlip’ FaceTime yn brydlon bnawn Gwener ac ymrithiodd wyneb Tim bob cam o Rotterdam yn yr Iseldiroedd ar fy nesg yng Nghaerfyrddin.

Aeth hi’n drafodaeth frwd. Fel aelod o Gwmni Dawns Genedlaethol Cymru, roedd Tim wrth reswm yn gyfarwydd â’n gwlad, ond fel cymaint o drigolion Cymry gwaetha’r modd, heb glywed am hanes yr Epynt. Doedd ganddo ddim syniad fod ar y mynydd bentref Almaenig ffug yn unswydd er mwyn i’r milwyr ymarfer rhyfela, nid ar faes y gad, ond ar strydoedd a rhwng cartrefi pobl nad oedd ganddynt nag arf na chynnen.

Sut gellid cyfleu hynny ar ddawns tybed? A beth am themâu’r prosiect, sef ‘plethu’ a ‘chynghanedd’?

Byddai’n rhaid cyfarfod eto.

Aeth Tim ar waith i chwilio am leoliadau … yn ddelfrydol mynydd yng ngwastatir ei Rotterdam, a minnau i chwilio am eiriau.

Y tro nesaf i ni gwrdd, roedd gan y ddarlith deitl; ‘Daw’r Wennol yn ôl i’w nyth’, a hynny oherwydd roeddwn am edrych ar gerdd Waldo Williams lle mae’n disgrifio sut y collodd pobl De Sir Benfro eu cartrefi dan amgylchiadau tebyg i bobl yr Epynt. Er mor drwm yw’r galar yn y gerdd, mae’n gorffen gyda’r llinell gwbl obeithiol: ‘Daw’r Wennol yn ôl i’w Nyth’.

Ac mae Gobaith yn allweddol.

Tybed a fyddai Tim yn gallu dod o hyd i wennol mewn dawns neu lun …?

O’r wennol yn ei nyth aeth ein sgwrs at wennol y ffatri wlân, a’r ddau ohonom yn clywed shi-sha-shi-sha y peiriannau gwehyddu yn fiwsig o fath yn y ffilm. Dyma ffonio Melin Tregwynt sydd gerllaw cartref teulu Mam, i weld a fyddai modd recordio’r sain? Ond fel ym mhob ffatri arall, roedd y peiriannau yno wedi tawelu dros dro.

Yn y cyfamser, roedd Tim wedi cael cryn hwyl arni, ac os nad oedd wedi gallu consurio mynydd roedd wedi dod o hyd i bob math o leoliadau hudolus eraill. Ac erbyn tua’r bedwaredd alwad roedd gyda ni, fwy neu lai’n llythrennol, linyn arian ein cywaith. Llinyn ein perthyn. Nid Tim a finnau. Ond pawb. Holl bobl y byd. Y llinyn sy’n ein clymu at ein gilydd ac eto sy’n ein rhyddhau. Oherwydd yn y clymu at ei gilydd mae chwalu twyll y ffin rhwng y ‘ni’ a’r ‘nhw’. Heb y ffin honno all gormes y Fi Fawr ddim mo’n caethiwo ni, na chwaith yn ei dro, felly, ormes dieithrio, gormes ofn, gormes trais.

O’r fan honno, dechreuodd y darnau ddisgyn i’w lle.

Doedd dim gwennol, ond roedd gobaith.

Doedd dim ffatri wlân, ond roedd edefyn perthyn.

Yn y lofft rhwng hen gotiau a blancedi recordiwyd y gerdd, a filltiroedd maith i’r dwyrain, dawnsiwyd a ffilmiwyd y golygfeydd.

Ac felly bu’r pytiau’n gwenoli eu ffordd yn ôl ac ymlaen dros y dŵr.

*

Heddiw, a’r cywaith yn barod, rwy’n mwynhau diwrnod cyntaf o wyliau bach ac wedi estyn llyfr y bûm yn edrych ymlaen at ei ddarllen ers tro.

Fel mae’n digwydd, gwaith un o gydwladwyr Tim ydyw sef Humankind gan Rutger Bregman,. Mae’n agor gyda’r gosodiad hwn: ‘This is a book about a radical idea’. A’r syniad? ‘That most people, deep down, are pretty decent.’[1] Mae’n atseinio meddylfryd un o’m cyd-wladwyr inne’. Wyth deg a dwy o flynyddoedd yn ôl, fel hyn y disgrifiodd Waldo Williams ormes ‘cymdeithasol a militaraidd’:

‘peth sy’n estron i ddyn yng ngwaelod ei gyfansoddiad, fel y mae’n rhaid inni goelio os coeliwn y daw dydd pryd y bydd yn estron i’w hanes, oblegid gwaelod y cyfansoddiad sy’n penderfynu diwedd yr hanes’.[2]

Diolch am y cyfle i geisio rhoi mynegiant i’r gwaelod, ‘deep-down’, hwn.

 

Rhith yw’r ffin.

Gwthia’r ffenest.

Cei batrwm cwlwm calon.

 

[1] Bregman, R. 2020 Humankind a Hopeful History t.2 Bloomsbury: Llundain.

[2] Llythyr at D J Williams ddiwedd mis Tachwedd 1938 fel y’i dyfynnir yn Llwyd, A a Rhys, R. 2014 Waldo Williams, Cerddi 1922-1970 t. 574 Gomer: Llandysul

Gallwch wylio Hirddydd, ffilm fer Mererid a Tim, isod:

Literature Wales