Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am Ymddiriedolwyr a Dirprwy Gadeirydd newydd i eistedd ar ein Bwrdd Rheoli
Mae Llenyddiaeth Cymru yn chwilio am Ymddiriedolwyr a Dirprwy Gadeirydd newydd i eistedd ar ein Bwrdd Rheoli, gan gyfrannu tuag at ddiwylliant, strategaeth a gweledigaeth y sefydliad.
Mae ceisiadau i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr bellach wedi cau [12.00pm, 13 Ionawr 2023]. Cadwch lygad ar ein gwefan am gyfleoedd pellach i ymuno â’n bwrdd eleni.
Mae ein Bwrdd Rheoli yn cynnwys wyth Ymddiriedolwr cyfredol, ac yn cael ei arwain gan y Cadeirydd, Cathryn Charnell-White.
Ydych chi’n angerddol dros y celfyddydau a phosibiliadau trawsnewidiol llenyddiaeth? Ydych chi’n ymroddedig i werthoedd cynhwysiant a thegwch, ac yn credu y gall diwylliant yn ei holl ffurfiau arwain at newid cadarnhaol i gymdeithas? Oes gennych chi’r wybodaeth a’r sgiliau i gefnogi llywodraethu da, i ddatblygu strategaeth ac i ysbrydoli newid cadarnhaol? Os felly, ystyriwch ymgeisio am y rôl gyffrous hon.
Am bwy rydyn ni’n chwilio?
Rydyn ni’n dymuno penodi nifer o unigolion deinamig, creadigol ac ymroddedig i Fwrdd Rheoli’r Ymddiriedolwyr, a all arwain y sefydliad wrth i ni barhau i ail-ddychmygu a siapio ein tirlun llenyddol cyfoes, gan gadw’n driw i’n cenhadaeth a’n gwerthoedd.
Rydyn ni’n chwilio am eiriolwyr cryf sy’n rhannu gweledigaeth a gwerthoedd y sefydliad a fydd yn gweithio gyda’u cyd-ymddiriedolwyr a’r staff i sicrhau safonau uchel o lywodraethiant, tryloywder a hygyrchedd. Rydyn ni’n chwilio am unigolion sy’n ymddiddori ac yn ymwneud â llenyddiaeth a’r celfyddydau, ac a fydd yn ein helpu i dyfu ac i wella fel sefydliad.
Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bobl o ystod o gefndiroedd a phrofiadau o fewn y sector llenyddol a thu hwnt. Yr hyn sy’n bwysig i ni fydd eich ymrwymiad a’ch angerdd dros ein gwerthoedd a’n cenhadaeth o rymuso, gwella a chyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.
Mae nifer o’n prif raglenni a gweithgareddau yn ceisio mynd i’r afael â than-gynrychiolaeth ac anghydraddoldeb o fewn y sector. Ein nod yw maethu diwylliant llenyddol cenedlaethol sydd yn cynrychioli Cymru gyfan.
Yn Llenyddiaeth Cymru rydyn ni’n gweithio gydag awduron, storïwyr, ac artistiaid o bob genre yn ogystal ag ymarferwyr creadigol, ac rydyn ni’n annog unigolion â’r sgiliau a’r profiadau hynny i ymgeisio am y rôl hon. Serch hynny, hoffem fod yn dryloyw am sut mae hyn yn effeithio ar weithio gyda ni mewn capasiti ehangach. Yn ddealladwy, mae Cyfraith Elusennau yn datgan na all Ymddiriedolwyr elwa o’u helusen, ac felly yn ystod cyfnod unigolyn ar y Bwrdd ni fyddant yn gymwys am unrhyw gyllid na chyfleoedd sy’n codi o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru.
Cwestiynau am y rôl?
Er mai swydd sy’n cael ei chyflawni’n wirfoddol yw hon, mae Llenyddiaeth Cymru yn credu na ddylai cyfyngiadau ariannol atal pobl rhag dod yn Gyfarwyddwyr.
Os ydych yn ansicr a fyddech yn gallu ymrwymo’r amser sydd ei angen i weithredu fel Ymddiriedolwr am resymau ariannol, cysylltwch â ni i drafod unrhyw bryderon sydd gennych.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol i drafod y rôl cyn gwneud cais, cysylltwch ag Alys Lewin, Ysgrifennydd y Cwmni: alys@llenyddiaethcymru.org
Dyddiadau allweddol:
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12.00 canol dydd, dydd Gwener 13 Ionawr 2023, gyda chyfweliadau yn cael eu cynnal yn ystod wythnos yn cychwyn 23 Ionawr. Byddwn yn gwahodd yr Ymddiriedolwyr newydd i ymuno â’r Bwrdd yng nghyfarfod 21 Chwefror neu 23 Mai 2023.
Gellir gwneud ceisiadau ar ffurf ysgrifenedig neu fideo – mae’r manylion llawn ar sut i wneud cais – gan gynnwys ein Haddewid Recriwtio yn y pecyn recriwtio, isod.
Os hoffech gael mynediad i’r cais hwn mewn fformat arall, cysylltwch â ni i roi gwybod. Rydyn ni’n ymroddedig i fodloni gofynion mynediad; rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch chi.
Cysylltwch â ni drwy post@llenyddiaethcymru.org neu drwy ffonio 029 2047 2266.