Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Melanie Owen

Holi’r Awdur: Melanie Owen
Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?
Mae’n swnio’n cheesy iawn, ond ers ro’n i’n blentyn mewn gwirionedd. Basen i’n ysgrifennu o hyd, a roedd ysgrifennu llyfr o hyd yn freuddwyd. A nawr co fi! Base Mel 9 oed yn gyffrous iawn (mae Mel 29 oed yn gyffrous iawn hefyd i fod yn deg)!
Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Falle bod hyn yn ddiflas, ond y pethau arferol bob dydd. Dydyn ni ddim yn cymryd sylw ohonyn nhw, ond dyna’r union pethau sydd gennyn ni yn gyffredin a sydd yn siapio ein bywydau ni.
Beth yw eich hoff lyfr neu awdur?
Sgen i’m Syniad – Gwenllian Ellis. Darllennais i’r llyfr yma yn union pan roeddwn i ei hangen hi ac am hynny bydda i o hyd yn ddiolchgar.
Hoff lyfr o’ch plentyndod?
Pa bynnag llyfr oedd Jacqueline Wilson newydd ddod allan. Ro’n i’n fangirl JW enfawr!
Beth ysgogodd y syniad ar gyfer eich llyfr?
Gyda fy mhenblwydd yn 30 yn dod yn agosach, mi wnes i ddechrau meddwl sut mae pob dewis hollol wirion rydw i erioed wedi gwneud, wedi arwain fi at y man lle ydw i nawr. Er roedd rhai ohonyn nhw wir yn eithriadol o boncyrs, sylweddolais basen i ddim yn newid dim un. Felly, es i ati i’w hysgrifennu nhw i lawr.
Allwch chi ddarllen ychydig o’ch llyfr inni os gwelwch yn dda?
Eich hoff le yn y byd a pam?
Prom Aberystwyth, hawdd!
Sut ydych chi’n mynd ati i ddewis enwau eich cymeriadau?
Roedd cofio’r llysenwau ro’n i a fy ffrindiau’n defnyddio am rai o’r cymeriadau pan roedden ni yn ein harddegau yn gymaint o sbort. Roedd rhesymeg reit ddoeth gennyn ni i bob un llysenw…roedden ni’n greadigol os dim byd arall!
Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?
Dwi wir methu credu fo! Do’n i erioed yn meddwl base hyn yn digwydd. Dwi’n gwybod bod e bach yn crinj, ond dwi mor falch o fy hunan.
Darllen / Gwrando Pellach:
Review: OEDOLYN (ISH!) by Melanie Owen
Mel Owen a’i thaith i fod yn oedolyn (ish!) | Dysgu Cymraeg
OEDOLYN (ISH!) – llyfr newydd Melanie Owen – Golwg360
Prynu copi o’r llyfr – Oedolyn (ish!) / Oedolynish (9781800996212) | Melanie Owen | Y Lolfa