Dewislen
English
Cysylltu

Plethu/Weave: Rufus Mufasa & Camille Giraudeau

Cyhoeddwyd Llu 15 Maw 2021 - Gan Rufus Mufasa

Mae’r Dŵr yn Dal Lle/Resurrect Dormant DNA gan y dawnsiwr Camille Giraudeau a’r ymgyrchydd llenyddol, telynegwr a’r rapiwr Rufus Mufasa, yn archwilio themâu mamolaeth a sut i greu etifeddiaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Mae’r gerdd yn llawn, yn ogystal â mwy o wybodaeth am y prosiect Plethu / Weave, ar gael yma.

 

 

“Archwiliodd Rufus a minnau y themâu cryf o amgylch rôl y fam – beth mae’n ei gynnig? A beth mae’n ei wneud i ni? Mae hyn yn cysylltu â’r syniad o ddŵr a sut mae’n iachau a glanhau, a caiff ei ddefnyddio mewn sawl defod ac fel arwydd o fywyd – dyma un o’r nodweddion a oedd yn gyrru’r ffilm. Sut allwn greu etifeddiaeth i’w drosglwyddo i’n plant.

Mirco, Macro. Swyn, Hwiangerdd. Testun cysegredig, Posau. Afal, Ffrwyth. DNA, Segur. Cyfnos – Dyma ein hetifeddiaeth.”

Camille Giraudeau

“O’n sgwrs gyntaf daeth yn amlwg bod iaith o ddiddordeb i Cami a minnau. Mi fues ar daith enfawr  o ail-ddarganfod gyda’r iaith Gymraeg yn ystod Covid, gan gofio hefyd fy ail feichiogrwydd, a’r arfer dyddiol o gael bath gyda fy merch hynaf, a chanu hwiangerddi Cymraeg i’r babi yn fy mol.

Roedd y bath hefyd yn fan cychwyn yn y sgwrs gyda Cami, daeth yn amlwg bod y ddwy ohonom yn teimlo ei fod yn lle a oedd yn “cynnig gofod”, lle a oedd yn ein hailgysylltu â’n hunain, gyda’r tarddiad, ein cyndadau a’n plant.

 

Roedd Cami hefyd wedi ail-gysylltu â’i mamiaith yn ystod ei beichiogrwydd gan ganu hwiangerddi Ffrangeg, roedd yr iaith wedi bod yn segur yn ei DNA tan nawr. Ond iaith/mamiaith yw ein hetifeddiaeth.

Rwy’n archwilio crefyddau a’u hysgrifau yn fy ngwaith ar hyn o bryd; mae’r fframweithiau a orfodwyd arnaf fi wedi bod yn rhai gwrywaidd bob amser, ac mae’r lleisiau a’r profiadau benywaidd wedi eu dileu, neu eu slwt-gywilyddio os wnaethon nhw lwyddo i oroesi. Mae duwiesau a Mair Magdalen wedi bod yn amlwg iawn yn fy archwiliadau, ac mae’r cysyniad Morwyn, Mam, Gwrach wedi disodli’r Tad, Mab a’r Ysbryd Glân.

Blociau’r wyddor o arddangosfa yn Tŷ Pawb yn 2019

 

Tynnwyd y llun o’r bath gan fy merch. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut y llwyddodd y pandemig i ddatgymalu trefn fy rôl fel mam ac artist.

Fe fuon ni hefyd yn archwilio lle mamau yn y celfyddydau, a sut dydi’r diwydiant rydyn ni’n rhan ohono ddim yn cefnogi artistiaid sy’n famau bob amser. Ond daw rôl y fam â chyfoeth o wybodaeth a llawer iawn o athroniaeth a mewnwelediad, a dylai mamau a’n straeon gael cymryd eu lle. Er bod Cami yn feichiog ddylai hynny ddim ei hatal rhag parhau i ddawnsio. Fe ddylai ddawnsio’n amlach fyth. Mae ei merch yn gwylio. Nid yw bod yn artist yn eich gwneud chi’n llai mamol, yn wir mae wedi llwyddo i fy ngwneud i’n fam llawer gwell.

Mae angen i famau weld eu hunain yn y gofodau a’r naratifau hyn. Rydym yn ased gwerthfawr i’r celfyddydau. Bob tro rydyn ni’n creu rydym yn ail-gysylltu â’n Creawdwraig, yn dod yn fwy gwydn, a gyda’r gwydnwch hwnnw efallai y caiff ein plant fframweithiau tecach yn y dyfodol. Ac mae yna lawer iawn o dduwiesau i ddod yn ein sgil, gyda CVs cyfoethog, yn awchu i chi godi’r ffôn.”

“Gyda’n gilydd archwiliodd Rufus a minnau y themâu ynghylch Mamolaeth – beth mae’n ei gynnig? A beth mae’n ei wneud i ni? Cysylltu â’r syniad o ddŵr a sut mae’n iachau a glanhau, caiff ei ddefnyddio mewn sawl defod ac fel arwydd o fywyd – dyma un o’r nodweddion a oedd yn gyrru’r ffilm. Sut allwn greu etifeddiaeth i’w drosglwyddo i’n plant.

Mirco, Macro. Swyn, Rhigwm plant, Testun cysegredig, Posau. Afal. Ffrwyth. DNA. Segur. Cyfnos. Dyma ein hetifeddiaeth.”

“O’n sgwrs gychwynnol daeth yn amlwg bod iaith yn bwnc cyffredin rhwng Cami a minnau. Mi fues ar daith ddarganfod sylweddol gyda’r iaith Gymraeg yn ystod Covid, gan lwyddo hefyd i’w olrhain i fy ail gyfnod o feichiogrwydd, a’r trefniant dyddiol o minnau a fy merch hynaf yn y bath, yn canu rhigymau plant Cymraeg i fy mabi yn fy mol. Roedd y bath hefyd yn fan cychwyn i’w rannu, a daeth yn amlwg bod y ddau ohonom yn teimlo ei fod yn lle a oedd yn “cynnig lle”, sef lle a oedd yn ein hailgysylltu i ni ein hunain, i’r tarddiad, i’n cyndadau ac i’n plant. Roedd Cami hefyd wedi cysylltu’n nes â’i mamiaith yn ystod ei beichiogrwydd gan rannu rhigymau plant Ffrangeg, a fu’n segur yn ei DNA tan nawr. Ond mae iaith/mamiaith yn rhan o’n hetifeddiaeth.

Yn fy ngwaith ar hyn o bryd, trwy archwilio’r crefyddau a’r ysgrifau, mae’r fframweithiau a orfodwyd arnaf wedi bod yn rhai gwrywaidd bob tro, ac mae’r lleisiau a’r profiadau benywaidd wedi eu dileu, neu eu cywilyddio os llwyddasant i oroesi. Mae duwiesau a Mair Magdalen wedi bod yn amlwg iawn yn fy archwiliad, ac mae’r cysyniad Morwyn, Mam, Gwrach wedi adhawlio’r Tad, Mab a’r Ysbryd Glân.

Bu i ni hefyd archwilio mamolaeth yn y celfyddydau, a sut mae’r diwydiant yr ydym yn rhan ohono weithio wedi’i lygru o ran cefnogi artistiaid mamol. Ond daw mamolaeth â chyfoeth o wybodaeth a llawer iawn o athroniaeth a mewnwelediad, a dylai mamau a’n straeon lenwi’r lle hwnnw. Er bod Cami yn feichiog ni ddylai hynny ei hatal rhag parhau i ddawnsio. Fe ddylai ddawnsio’n amlach fyth. Mae ei merch yn gwylio. Nid yw bod yn artist yn eich gwneud chi’n llai mamol, yn wir llwyddodd i fy ngwneud i’n fam llawer gwell.

Mae angen i famau weld eu hunain yn y lleoedd a’r naratifau hyn. Rydym yn ased i’r celfyddydau. Bob tro y llwyddwn i greu rydym yn ail-gysylltu â’n Creatrix, yn dod yn fwy gwydn, a gyda’r gwydnwch hwnnw efallai y caiff ein plant fframweithiau llawer tecach i’r dyfodol. Ac mae yna lawer iawn o Dduwiesau i ddod yn ein sgil, gyda CVau cyfoethog, yn awchu i chi godi’r ffôn.”

Rufus Mufasa