Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Sut i Ddofi Corryn

Cyhoeddwyd Gwe 31 Mai 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024 – Sut i Ddofi Corryn

Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres sy’n rhoi sylw i’r llyfrau ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2024.

Y tro hwn, rydym yn taflu golau ar Sut i Ddofi Corryn gan Mari George, sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer y categori Ffuglen Cymraeg.

 

Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)

Stori Muriel sydd yma, a’i thaith arwrol i geisio cael gwellhad i’w gŵr, Ken. Maen nhw’n bâr priod yn eu pedwardegau pan gaiff Ken wybod ei fod yn marw o ganser. Ond dechrau’r daith yw’r Muriel ifanc, tair ar ddeg oed, pan ddaw hi o hyd i’r llyfr hynafol, Llyfr Corynnod y Mwmbwls… Bydd y nofel hon yn mynd â chi ar daith anturus wrth i Muriel geisio dod o hyd i atebion. Ond mae rhaid iddi wynebu ei phryderon a’i hofnau mwyaf yn gyntaf, ac i wneud hynny, mae’n rhaid iddi dorri’n rhydd oddi wrth y gweoedd hynny sy’n ei chlymu’n saff.

 

Am yr Awdur

Bardd, awdur a chyfieithydd sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw Mari George. Mae hi wedi cyhoeddi dwy gyfrol o gerddi – Y Nos yn Dal yn fy Ngwallt (2004) a Siarad Siafins (2014) – ac mae hi’n aelod o dîm Talwrn Aberhafren. Mae hi hefyd wedi golygu sawl casgliad o farddoniaeth ac wedi ysgrifennu ac addasu nifer o lyfrau i blant. Sut i Ddofi Corryn yw ei nofel gyntaf i oedolion.

Gwylio, Darllen, Gwrando!

Trafodwyd Sut i Ddofi Corryn ar bodlediad Colli’r Plot fis Rhagfyr 2023: Llyfrau’r Flwyddyn

Roedd Mari George ac Iwan Rhys yn westai ar bodlediad Caru Darllen fis Tachwedd 2023.

Prynu’r Llyfr

Gallwch brynu Sut i Ddofi Corryn trwy wefan Sebra Cymru.

Prynu Nawr