Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Siôn Tomos Owen

Holi’r Awdur: Siôn Tomos Owen
Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?
Doedden i’m ishe bod yn awdur ond roedden i eisiau sgwennu pethau i dynnu llun ohonyn nhw. Dwi’n credu bo hynny wedi dod o’r ysgol lle o’n i wastad yn dwdlo ond yna wedi dechrau sgwennu hefyd. I mi mae’r ddau yn mynd law yn llaw.
Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Dwi ddim yn siwr sut i ateb hwn gan bo deilen, blodyn neu brychni ar fochau fy mhlant yr un mor ysbrydoledig a gwleidyddiaeth, iaith ac hanes. Mae’r awen yn dod ar y gwynt a fi yw’r ddeilen ar yr awel.
Beth yw eich hoff lyfr neu awdur?
Cwestiwn anodd ond fy hoff lyfr heb os yw Catcher in the rye, dwi ‘di ailddarllen o leiaf 8 gwaith, darllenais i fe ar yr amser cywir yn fy arddegau ac fe gydiodd yndda’i. Mae Roald Dahl wastad yn ysbrydolaeth, naillai ei lyfrau i blant neu ei straeon byrion bizarre. Nofelau Graffeg Will Eisner a Nick Drnaso. Dwi’n hoff iawn o nofelau Cymraeg Llwyd Owen a Mihangel Morgan, Thrillers Stephen King a Lee Child. O ran beirdd, mae Ginsberg a’r Beats ‘di cael effaith mawr arna’i ac Ann Sexton, ond yn gyfoes dwi’n ffan enfawr o (gyd-rhestr ferwyr) Rhian Elizabeth a Natalie Holborow, ac yn Gymraeg, Morgan Owen, Grug Muse a Gruffudd Owen.
Hoff lyfr o’ch plentyndod?
Matilda gan Roald Dahl, merch fach ddiniwed yn cael dial ar bobol greulon, gafodd effaith mawr arna’i i’r pwynt mae enw canol fy merch ifanca yw Matilda. Fe wnaeth y llyfr hwn newid fy meddwl am lyfrau gan nad oeddwn yn hoffi darllen tan y llyfr yma.
Beth ysgogodd y syniad ar gyfer eich llyfr?
Dwi wedi bod yn sgwennu barddoniaeth ers amser hir ond yn Saesneg yn bennaf. Yna yn 2017 fe es i a 3 awdur arall ar daith sgwennwyr i India gyda Parthian, y tro cyntaf i mi fynd am gyfnod hir heb siarad Gymraeg ac naeth rhyw switch ddigwydd. Gwelais i fwnci ar ben adeilad tra’n cael brecwast a dwedais “Shwmae” iddo, chwerthin ar y ffaith ac yna sgwennu cerdd amdano yn Gymraeg sydd yn y llyfr. Ers hynny dwi ‘di mynd o sgwennu tua 20% yn Gymraeg i tua 90%, diolch i Parthian a’r Mwnci yna.
Allwch chi ddarllen ychydig o’ch llyfr inni os gwelwch yn dda?
Pwy ddylai ddarllen eich llyfr a pam?
Pobl sydd am bleidleisio barn y bobol! Ha!
Unrhywun sydd eisiau darllen cerddi sydd falle ddim yn draddodiadol Gymreig ac wedi gwreiddio yn y Cymoedd gyda elfen o hiwmor… ac os nad ydyn nhw’n hoffi’r cerddi gewn nhw edrych ar y llyuniau yn lle!
Oes gennych chi waith/digwyddiad arall ar y gweill?
Mae gen i nofel i blant dwi wedi sgwenuu a darlunio yn cael ei gyhoeddi gan Atebol yn yr Haf ac dwi’n gweithio ar gyfrol arall o straeon i ddysgwyr.
Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?
Dwi ddim yn gwybod beth i wneud gyda clôd, dwi ddim yn delio’n dda iawn gyda fe, rhywebth seicolegol yn amlwg, bod rhywbeth am fynd o’i le oherwydd mod i wedi derbyn rhywbeth da. Ond er dweud hyn dwi mor chuffed i gyrraedd y rhestr fer. Dwi’n dwli ar Llyfr y Flwyddyn, y cyffro, ymateb y Cymry i’r enwebiadau, gwynebau’r enilllwyr ar y noson. Dwi’n hoffi dod i lawr i wawdlunio’r seremoni, ond o leia’r flwyddyn yma fydd un yn llai gen i wneud!
Yng Ngeiriau’r Beirniaid…
Darllen / Gwrando Pellach:
Adnabod yr awdur, Siôn Tomos Owen | Dysgu Cymraeg
Prynu copi o’r gyfrol – Pethau sy’n Digwydd – Cyhoeddiadau Barddas