Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Sioned Erin Hughes

Holi’r Awdur: Sioned Erin Hughes
Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?
Adeg sgwennu fy MA mewn Ysgrifennu Creadigol – roedd cyfran fawr o’r portffolio yn waith wnes i ei gynnwys yn Rhyngom!
Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Pobl, anifeiliaid, ffilmiau, llyfrau, byd natur a’m plentyndod.
Beth yw eich hoff lyfr neu awdur?
Yn y Gymraeg fy hoff lyfrau ydi Wele’n Gwawrio, Angharad Tomos, Rhwng Noson Wen a Phlygain, Sonia Edwards ac yn hon bu afon unwaith, Aled Jones-Williams. O ran barddoniaeth, Marged Tudur a’i chyfrol Mynd. Yn y Saesneg, mae Mary Oliver yn ddylanwad mawr, ac yn fwy diweddar, meddylfryd Andrea Gibson ac Ocean Vuong hefyd. Fy hoff lyfrau yn y Saesneg ydi Letters to a Young Poet gan Rainer Maria Rilke, Faith, Hope and Carnage gan Nick Cave a Seán O’hagan, I Am, I Am, I Am gan Maggie O’farrell a The Bell Jar gan Sylvia Plath.
Hoff lyfr o’ch plentyndod?
Stori, Stori Hen Blant Bach gan Helen Craig, addasiad Emily Huws.
Beth ysgogodd y syniad ar gyfer eich llyfr?
Roedd meddwl sgwennu 365 darn creadigol mewn blwyddyn yn anodd, a dyna pam wnes i fwrw ati a gwneud, a bod yn onest. Ro’n i wedi gwneud pethau anoddach, felly roedd hon yn sialens fach newydd a ffordd o ddysgu mwy am fy nygnwch a’m disgyblaeth fy hun.
Allwch chi ddarllen ychydig o’ch llyfr inni os gwelwch yn dda?
Pwy ddylai ddarllen eich llyfr a pam?
Llyfr ar gyfer yr adegau lle mae darllen nofel yn teimlo’n ormod o fynydd, efallai. Mae pobl hefyd wedi dweud ei fod yn llyfr da i’w gael wrth ochr y gwely a darllen un darn y noson.
Oes gennych chi waith/digwyddiad arall ar y gweill?
Oes! Mae gen i gyfrol dwi wedi ei golygu ar fin cael ei chyhoeddi ac mae gen i gyfrol o farddoniaeth yn cael ei rhyddhau fis Medi. Dwi’n mynd yn ôl i ganolbwyntio ar fy rhyddiaith wedyn – mae gen i gyfrol allan yn 2026 a cyfres o lyfrau i blant, gobeithio.
Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?
Dwi’n teimlo’n ddiolchgar dros ben. Dwi’n ffodus bod cymaint o bobl garedig o fy nghwmpas sydd yn fy annog i’n gyson ac yn gwerthfawrogi fy ngwaith.
Yng Ngeiriau’r Beirniaid…
Darllen / Gwrando Pellach:
Blwyddyn gron o lenydda gan Sioned Erin yn cael ei ddathlu mewn llyfr newydd | Cambrian News
Prynu copi o’r gyfrol – O’r Rhuddin – 365 o fyfyrdodau mewn blwyddyn | Sioned Erin Hughes | Y Lolfa