Dewislen
English
Cysylltwch

Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Sioned Wyn Roberts

Cyhoeddwyd Maw 17 Meh 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhoi Sylw i Restr Fer Llyfr y Flwyddyn: Sioned Wyn Roberts

Holi’r Awdur: Sioned Wyn Roberts

Pryd wnaethoch chi sylweddoli gyntaf eich bod chi eisiau bod yn awdur?

Dechreuais i ysgrifennu ar ddamwain llwyr. Roedd gen i wyliau i’w cymryd ac yn awyddus i wneud rhywbeth creadigol, felly es i ar gwrs ysgrifennu i blant yng Nghanolfan Newydd gan feddwl y bysa’n help yn fy swydd fel comisiynydd cynnwys plant S4C. Ro’n i wrth fy modd, dyna oedd y sbardun i ddechrau sgwennu a dwi ddim di stopio ers hynny!

Beth sy’n eich ysbrydoli chi?

Atgofion plentyn, hanes, hen chwedlau a straeon tylwyth teg. 

Beth yw eich hoff lyfr neu awdur?

Wolf Hall gan Hilary Mantel. 

Hoff lyfr o’ch plentyndod?

Luned Bengoch gan Mary Watkin Jones. 

Beth ysgogodd y syniad ar gyfer eich llyfr?

Darlun ‘An Election Entertainment’ gan William Hogarth sbardunodd yr egin syniad. Mae’r nofelMadwswedi’i gosod yn Medi 1752 pan newidodd y calendr o’r Iwlaidd i’r Gregoraidd ac fe gollodd bawb 11 diwrnod. Dim ond ar ôl gweld llun Hogarth o’r protestiadau yn erbyn colli’r 11 diwrnod wnes i ddallt bod y digwyddiad wedi creu cymaint o gynnwrf ymysg y werin bobol. I fi, unwaith mae’r sbardun yna wedi dod, mae o’n denu syniadau eraill fel magned. 

Allwch chi ddarllen ychydig o’ch llyfr inni os gwelwch yn dda?

Eich hoff le yn y byd a pam?

Traethau Pen Llŷn. Lle i’r enaid gael llonydd a ballu! 

Sut ydych chi’n mynd ati i ddewis enwau eich cymeriadau?

Mewn nofel hanesyddol mae’n rhaid dewis enwau sy’n gweddu i’r cyfnod. Roeddwn i’n chwilio am enw i’r cymeriad Madws am hir – hi yw amserYn y diwedd, ddes i ar draws y gair madws yn GPC arlein, sef hen air am amser neu ‘hen bryd’. Wnaeth o gydio ar unwaith 

Sut deimlad ydi o i gyrraedd rhestr fer LLYF 2025?

Ges i sioc aruthrol clywed bod Madws ar y rhestr fer! Dwi wrth fy modd bod y panel wedi dewis y nofel, a’i bod hi yna efo Nelan a Bo a V a Fofy hoff nofelau o 2024. 

 

Yng Ngeiriau’r Beirniaid…

Darllen / Gwrando Pellach:

Clwb Darllen Rhaglen Ffion Dafis – ‘Madws’ gan Sioned Wyn Roberts – BBC Sounds

Madws – Cyfnewidfa Llên Cymru

Prynu copi o’r llyfr – Llyfrau | Gwasg Y Bwthyn

Blog, Llyfr y Flwyddyn