Sut i ysgrifennu bywgraffiad awdur
Dechreuwch gyda’r pethau sylfaenol
Cyn neidio ymlaen i’r manylion mwy swmpus, nodwch ffeithiau allweddol eich bywgraffiad. Wedi’r cyfan, dyma’r pethau hanfodol i’w cyfleu i rywun sydd ddim yn eich adnabod chi eisoes. Dechreuwch gyda’ch enw, eich prif faes arbenigedd (barddoniaeth, ffuglen, ysgrifennu dramâu, ayb), a ble rydych chi’n byw. Fel gydag unrhyw ddarn o ysgrifennu, rydych chi’n adrodd stori – ac mae angen i’r darllenydd wybod y prif ffeithiau bron yn syth. Mae’n ddefnyddiol ystyried y pum cwestiwn newyddiadurol yma: Pwy, Beth, Ble, Pryd a Pham? (Byddwn hefyd yn cynnwys y cwestiwn Sut? fel mesur da, ond mwy ar hynny yn nes ymlaen.) Atebwch y cwestiynau yma yn glir cyn gynted â phosib.
Symleiddiwch eich iaith
Fel y bydd y mwyafrif o awduron yn gwybod, mae eglurder yn allweddol mewn darn o ysgrifennu da. Mae’n hynod o allweddol mewn bywgraffiad. Mae’n debygol y bydd eich cynulleidfa yn eang ac amrywiol, gan gyrraedd o bob cornel o’r rhyngrwyd. Bydd angen gwneud yn siŵr bod yr iaith a’r geiriau a ddefnyddiwch yn cyfleu’n glir – ac yn gyflym – pwy ydych chi a beth rydych chi’n ei wneud, a hynny mewn termau syml. Ewch dros y brawddegau sawl gwaith a symleiddiwch y strwythur a’r eirfa. Os ydych chi’n ysgrifennu yn y Gymraeg, darllenwch dros ganllawiau Cymraeg Clir er mwyn mesur pa mor eglur yw’r brawddegau (neu ganllawiau Plain English yn Saesneg). Os ydych chi’n gweithio’n ddigidol, manteisiwch ar y gwirwyr sillafu a gramadeg am ddim fel Grammarly (yn Saesneg) a Cysill Ar-lein (yn Gymraeg).
Beth yw’r hyd delfrydol?
Bydd hyd eich bywgraffiad yn dibynnu i raddau helaeth ar ei leoliad. Edrychwch ar fywgraffiadau awduron eraill ar yr un wefan neu yn yr un fformat i ddod i benderfyniad ar yr hyd gorau. Os nad yw’r person sy’n gofyn am eich bywgraffiad wedi nodi’r nifer o eiriau , gofynnwch am ffigwr. Os nad ydych yn gallu cymharu na chael syniad bras o’r hyd sydd ei angen yna cadwch at 300–500 gair, neu lai – cipolwg sydd angen ar y darllenydd ac nid ôl-gatalog gyfan. Mae rhestrau manwl yn fwy addas ar gyfer CV neu e-byst penodol sy’n gofyn am driniaeth mwy manwl.
Meddyliwch am hygyrchedd
Os mai chi eich hun sy’n darparu llwyfan i’r bywgraffiad ysgrifenedig – ar eich gwefan, er enghraifft – gwnewch eich cynnyrch yn fwy hygyrch trwy ddewis maint testun 14 pwynt o leiaf, a gwnewch yn siŵr bod y cyferbyniad lliw yn uchel. Mae Llywodraeth y DU yn cynghori cyfathrebwyr i gyferbynnu ffont tywyll yn erbyn cefndir ysgafn fel rheol gyffredinol (‘contrast dark type against a light background as a general rule’). Mae dylunio fel hyn yn meddwl y gall pobl ag anableddau ddarllen eich bywgraffiad, sydd o fudd i unigolion, busnesau ac i gymdeithas yn gyffredinol.
Gallwch ddarllen mwy am hygyrchedd gwefannau yma. Os ydych chi’n gwybod pa liwiau y byddwch chi’n eu defnyddio, beth am greu palet yn Adobe Colour a defnyddio eu hoffer hygyrchedd am ddim i wirio’r lliwiau?
Ychwanegwch y manylder
Gan gofio’r pum cwestiwn newyddiadurol, fan hyn mae’r Pryd, Pam a Sut yn dod yn bwysicach. Mae ychwanegu manylder at y pwyntiau yma yn gallu dod â’r bywgraffiad yn fyw – a’i wneud yn gofiadwy. ‘Pryd’ mae disgwyl i’ch cyhoeddiad nesaf gael ei ryddhau? ‘Pryd’ wnaethoch chi dderbyn yr acolâd neu’r cymhwyster perthnasol hwnnw? ‘Pam’ mae gennych chi ddiddordeb yn eich pwnc? ‘Sut’ mae’r meysydd diddordeb hyn yn cyfuno yn eich gwaith? Rydym ni i gyd yn fodau dynol diddorol, unigryw, ac felly bydd y manylion yma yn unigryw i chi. Dyna’r stori y bydd darllenydd, awdur arall neu gyhoeddwr eisiau ei darllen.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i ddatblygu eich sgiliau fel awdur yn ein hadrannau Cwestiynau Cyffredin ac Adnoddau. Wrth ysgrifennu eich bywgraffiad, peidiwch ag anghofio ychwanegu dolenni i lefydd y gall darllenwyr brynu eich llyfrau neu gyhoeddiadau.