
Creadigrwydd yn y Gymraeg: Yr heriau a’r cyfleoedd
Ydych chi’n awdur neu’n berson creadigol sydd wrthi’n dysgu Cymraeg neu â diddordeb mewn arbrofi gyda dwyieithrwydd? Ymunwch â clare e. potter, Joe Healy, Siôn Tomos Owen ac Izzy Rabey am sgwrs gonest, bywiog a pherthnasol am yr heriau a’r cyfleoedd gall godi drwy fentro’n greadigol yn y Gymraeg.
Yn ystod y sgwrs awr o hyd, bydd y Panel yn archwilio’r dynfa rhwng amddiffyn cywirdeb iaith ac yr awydd i greu gwaith cyfoes sy’n plethu ieithoedd â’i gilydd. Byddant yn rhannu’r rhwystrau maent wedi eu hwynebu megis diffyg hyder ac “impostor syndrome”, yn ogystal â sôn am y cyfleoedd creadigol unigryw a cheir drwy ymdrin â geiriau ac ieithoedd mewn modd chwareus ac arbrofol.
Caiff y sesiwn ei gynnal dros Zoom yn rhad ac am ddim nos Fawrth, 22 Tachwedd 2022 am 6.00-7.15pm.
Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ystod y sesiwn.
Noder: Mae’n rhaid cofrestru o flaen llaw- mae’n cymryd llai na munud i wneud.
Cofrestrwch yma.
Mae’r sesiwn hon yn gael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Ceir rhagor o wybodaeth am Llenyddiaeth Cymru yma.
Trefnir y digwyddiad fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ynghlwm â’r cynllun datblygu awduron, Cynrychioli Cymru. Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis o hyd sy’n darparu cyfleoedd i awduron sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector llenyddol i ddatblygu eu crefft a’u dealltwriaeth o’r diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi. Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth yma.
Y Panel
Mae’r Panel yn cynnwys unigolion creadigol sydd ag ystod eang o brofiadau o ddefnyddio, dysgu a siarad y Gymraeg.
clare e potter (Cadeirydd)
Mae clare yn fardd dwyieithog, cyflwynydd radio, artist cyfranogol, sydd â ail gasgliad o farddoniaeth ar y gweill. Derbyniodd ysgoloriaeth gan Llenyddiaeth Cymru a’r Society of Authors a’u galluogodd i gwblhau’r llyfr. Mae hi’n gweithio fel hwylusydd ar brosiectau sy’n cyfuno llesiant, ysgrifennu a natur ac yn dysgu am ymarfer therapi barddoniaeth drwy gyllid a dderbyniodd gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Cyfarwyddodd raglen ddogfen BBC Cymru am ei barbwr pentref a bydd yn cyflwyno rhaglenni barddoniaeth ar gyfer y BBC eleni. Trydar: @clare_potter
Joe Healy
O Wimbledon ddaw Joe Healy yn wreiddiol. Daeth i Gaerdydd i astudio yn y brifysgol a phenderfynodd aros yn y brifddinas. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018, ac erbyn heddiw mae’n siarad yr iaith yn gwbl hyderus, gan ei defnyddio ym mhob agwedd o’i fywyd. Mae hefyd wedi mynd ati i gefnogi ei gydweithwyr a’i ffrindiau i ddysgu Cymraeg. Cafodd ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022. Mae Joe’n angerddol dros y Gymraeg a Chymru, ac yn awyddus i weld ein hiaith yn ffynnu yn y dyfodol. Mae hefyd yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth. Eleni dechreuodd Joe ysgrifennu cerddi a chaneuon yn Gymraeg ac yn ddwyieithog, ac mae’n awyddus i annog eraill i ddefnyddio’r Gymraeg, ac ieithoedd eraill, yn eu gwaith creadigol.
Siôn Tomos Owen
Magwyd Siôn Tomos Owen yng Nghwm Rhondda. Mae’n gyflwynydd teledu a radio dwyieithog ac yn awdur barddoniaeth, rhyddiaith a llyfrau i ddysgwyr Cymraeg. Mae hefyd yn wawdlynydd, yn ddarlunydd ac yn cynnal gweithdai creadigol ac yn creu murluniau trwy ei gwmni CreaSion. Mae newydd ddechrau ar brosiect newydd Llen Mewn Lle/Lit in Place gyda Llenyddiaeth Cymru a WWF Cymru i greu dyddiadur darluniadol o grwp iechyd meddwl Welcome to Our Woods yn Nghwm Saerbren, Treherbert ar ben y Rhondda Fawr.
Izzy Rabey
Mae Izzy (hi/nhw) yn siaradwr Cymraeg Queer, ac yn gyfarwyddwr, yn ymarferydd theatr gymhwysol ac yn wneuthurwr cerddoriaeth o Fachynlleth yng nghanolbarth Cymru. Fel cyfarwyddwr mae Izzy wedi gweithio gyda’r Royal Court, National Theatre Wales, English Touring Theatre Company, Theatr Clwyd, Theatr y Sherman, Canolfan Gelfyddydau Chapter a The Other Room Theatre. Mae nhw hefyd yn rhan o fand o’r enw The Mermerings gyda Molly McBreen ac yn rhan o brosiect neo soul a hip hop gyda Eadyth Crawford. Mae Izzy wedi gweithio gyda phobl ifanc yn y system ofal, unedau awtistiaeth, unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion ar gyfer pobl ifanc niwroamrywiol, ac unedau seiciatrig ar gyfer pobl ifanc. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn cyd-hwyluso Young Queens, grŵp barddoniaeth a drama cymunedol ar gyfer menywod Somalïaidd yng Nghaerdydd.