‘Abandon All Hope: Gary Raymond mewn sgwrs gyda Rebecca Gould
‘Abandon All Hope’: A Personal Journey Through the History of Welsh Literature
‘I awoke from a deep sleep I had taken under the shade of a tree in a field at the outskirts of a dark wood, without remembering how I had gotten there, or, indeed, where it was exactly, I had gotten.’
Dyna sut mae taith ryfeddol yn dechrau, lle mae awdur – sy’n hynod debyg i’r awdur, Gary Raymond – yn gadael i’w hun gael ei dywys drwy fyd aml-haenog llenyddiaeth Gymreig, nid gan Virgil, ond gan y diweddar awdur a beirniad, yr Athro Raymond Williams.
Gan ymdrin â hanes llenyddiaeth Cymru, o etifeddiaeth y traddodiad barddol i waith arbrofol cyfoes, mae ‘Abandon All Hope’ yn cyflwyno llenyddiaeth Cymru mewn ffordd newydd sbon – fel rhywbeth arloesol, arbrofol, bywiog, cyffrous, personol a chanddo lu o leisiau.
Mae’r daith hon i fyd Cymreig unigryw yn cynnig ffordd chwyldroadol newydd o archwilio ac esbonio hanes llenyddol, mewn maniffesto eang ei gwmpas ac, yn anad dim, hynod ddifyr, i greu darlun newydd o lenyddiaeth Cymru, yn y wlad a’r tu allan iddi. Abandon All Hope yw’r llyfr a fydd yn rhoi llenyddiaeth Cymru ar y map ac yn adfywio hanes cyfoethog.
Mae gan Gary Raymond amryw o rolau – nofelydd, dramodydd, beirniad, golygydd a darlledwr. Ef yw cyflwynydd yr Arts Show ar gyfer BBC Radio Wales a bu’n gyd-sylfaenydd Wales Arts Review, gan ei olygu am 10 mlynedd. Mae’n awdur chwe llyfr. Yr un ddiweddaraf yw ‘Abandon All Hope’: A Personal Journey Through the History of Welsh Literature (Calon Books, 2024). Mae ei nofelau’n cynnwys ‘For Those Who Come After’ (Parthian, 2015), ‘The Golden Orphans’ (Parthian, 2018), ac ‘Angels of Cairo’ (Parthian, 2021). Mae hefyd yn awdur tair rhaglen ddogfen ar gyfer BBC Radio ac un ddrama am fywyd yr awdur Dorothy Edwards.