
Categori /
Digwyddiad
Ac Eto Nid Myfi
Mae hon yn ddrama ddifyr a bywiog sy’n trafod llencyndod a thyfu i fyny, cariad a pherthynas pobl â’i gilydd, ond y cwestiynau pwysicaf a godir ganddi yw pwy ydym ni, a beth sy’n pennu llwybr ein bywyd.
Perfformiwyd y ddrama hon am y tro cyntaf gan aelodau Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, Coleg Bangor, a dyma berfformiad gan y gymdeithas honno ar ei newydd wedd a dan ei henw newydd, sef Cymdeithas John Gwilym Jones.