
Addasu Storïau yn Nofelau Graffeg gyda Hamid Sulaiman
Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn gweithio gyda’r awdur nofelau graffeg o Syria, Hamid Sulaiman, sydd ar hyn o bryd yn rhannu ei amser rhwng ‘prif drefi comics Ewrop’ Angoulême a Berlin. Fel rhan o’r prosiect mae gweithdy ymarferol i awduron ac arlunwyr yng Nghymru wedi’i drefnu gyda’r bwriad o gynyddu diddordeb a sgiliau yn y maes.
Bydd y gweithdy yn defnyddio cynhyrchiad trawiadol Cwmni Theatr Arad Goch o HUDO gan Mared Llywelyn Williams fel testun. Gweithdy mewn dwy ran fydd hwn i drafod y broses o addasu stori yn gyfres o ddelweddau graffeg. Cynhelir y gweithdy ymarferol dros Zoom; bydd y mynychwyr yn creu a datblygu eu syniadau eu hunain fel rhan o’r gweithdy. Mae nifer y llefydd yn gyfyngedig i 10 yn unig; mae’r gweithdy yn addas i artistiaid profiadol neu fyfyrwyr. Cysylltwch â post@aradgoch.org am ragor o wybodaeth ac i gadw lle. Cynhelir y gweithdy trwy gyfrwng y Saesneg.
Rhan 1 – Hydref 8fed, 5pm.
Rhan 2 – Hydref 12fed, 5pm.
Pris: £20 (llawn) £10 (i fyfyrwyr)
Rhan o brosiect Literary Europe Live Plus a gydlynnir gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau gyda nawdd drwy raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd.
Hamid Sulaiman: mae gwybodaeth am Hamid a’i waith ar https://www.lit-across-frontiers.org/profiles/hamidsulaiman/