Drama gignoeth ond llawn hiwmor am bobl yn dod ynghyd mewn lle oedd yn ‘adra’ i un o’u ffrindiau wedi ei farwolaeth ddisymwth. Ar brynhawn glawog y cynhebrwng daw criw ynghyd i gofio, crio a chwerthin. Ond tydi pawb ddim yr un peth i bawb, a buan iawn y dônt i sylweddoli hynny. Wrth iddi nosi mae pawb yn trafod pwy oedd yr ymadawedig a gofynnir y cwestiwn amhosib hwnnw — Pam?

Mae galar yn beth blêr, ac euogrwydd yn anodd ei drin yn enwedig ymysg bobl ddiarth. Mae gan pawb ei garfan— y rhai a arhosodd, y rhai a adawodd, y dinesig, yr amaethyddol ac ymysg y sgwrsio a’r atgofion mae tensiynau’n codi wrth i’r botel wisgi wagio.

Drama sy’n archwilio’r craciau rhwng y gwir a’r celwydd, rhwng aros a gadael, bod yn sâl neu’n iach, wrth i wahanol fydoedd daro’n erbyn ei gilydd.

Faint mae pobl yn adnabod ei gilydd go iawn?