Ymunwch â Iestyn Tyne a Manon Awst ar gyfer noson agoriadol Stiwdio Cadnant, Yr Institiwt yng Nghaernarfon nos Iau 16 Ionawr am 7:00pm, gyda pherfformiadau barddoniaeth, sain a ffilm.

Mi fydd yna berfformiad o gynnyrch cydweithio ar breswyliad mis Tachwedd yn Istanbul gan Iestyn Tyne, Catrin Menai a Zoё Skoulding yn ogystal â gwaith unigol gan y tri, gan gynnwys darnau ar-waith o’r albym cysyniadol ‘Carneddi’.

Ewch draw i fusnesu ar y stiwdio newydd sydd ar lawr uchaf adeilad hanesyddol Cyngor Tref Caernarfon, Yr Institiwt.

Mynediad rhad ac am ddim!

Mwy o wybodaeth