Mae Machynlleth, sydd â phedair o siopau llyfrau annibynnol, yn adnabyddus eisioes am eu gwyliau – yr Ŵyl Gerddoriaeth, yr Ŵyl Werin, yr Ŵyl Seiclo a’r Ŵyl Gomedi. Eleni bydd gŵyl lenyddol newydd yn cychwyn yn y dre: AMDANI, FACHYNLLETH!

Yn y ŵyl gyntaf hon, byddwn yn dathlu bywyd a gwaith yr awdur JAN MORRIS yng nghwmni llond lle o siaradwyr oedd yn ei nabod hi neu sydd wedi dod o dan ei dylanwad. Bydd Dan Llywelyn Hall yn dadorchuddio portread newydd sbon ohoni.

Pob digwyddiad yn £10. Tocyn penwythnos am £20. Tocynnau ar gael wrth y drws, neu ar-lein drwy MOMA: https://moma.cymru/en/whats-on/concerts-and-events/