
Noson gyda Gerald Seymour
Mae Cyfeillion Llyfrgell Rhydypennau yn eich gwahodd i Noson gyda Gerald Seymour. Ymunwch â ni ar 6ed Ebrill yn Eglwys Park End. Drysau’n agor am 7.00pm
Treuliodd Gerald Seymour bymtheng mlynedd fel gohebydd newyddion teledu rhyngwladol gydag ITN, gan arbenigo ym mhwnc terfysgaeth ar draws y byd. Ffrwydrodd Seymour i’r byd llenyddol gyda’r llyfr mwyaf poblogaidd Harry’s Game, sydd ers hynny wedi’i ddewis gan y Sunday Times fel un o’r 100 nofel gyffro orau a ysgrifennwyd ers 1945. Mae chwech o’i nofelau wedi’u ffilmio ar gyfer y teledu yn y DU ac UDA. The Foot Soldiers yw ei 38fed nofel.
Bydd cyfle hefyd i gwrdd â Gerald a phrynu copi wedi’i lofnodi o’i nofel gyffro ddiweddaraf, The Foot Soldiers a detholiad o’i waith arall.
I archebu lle yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn:
e-bostiwch hello@forl.wales
Rhowch Neges Facebook ar Friends of Rhydypennau Library Events
Ffoniwch hyb Rhydypennau ar 20871330
neu archebwch yn bersonol yn Hyb Rhydypennau (oedd yn llyfrgell)