Mae ‘Summer Soirées’ Dylan Thomas yn gyfres o ddigwyddiadau llenyddol gyda’r nos a drefnir ar y cyd gan write4word ac Ysgol Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cefnogir y digwyddiadau gan Llenyddiaeth Cymru ac fe’u cynhelir ochr yn ochr ag Ysgol Haf Ryngwladol Dylan Thomas. Mae hon yn rhaglen ysgrifennu creadigol breswyl ar gyfer myfyrwyr MFA Americanaidd wedi’i chyfarwyddo gan yr awduron Pamela Petro a Dominic Williams. Mae mynediad am ddim i bob digwyddiad ac yn agored i’r cyhoedd ac yn arddangos rhai o awduron proffesiynol gorau Cymru, llawer ohonynt â phroffiliau rhyngwladol, mewn amrywiaeth eang o genres. Yr uchelgais yw cyflwyno’r awduron hyn mewn lleoliadau anffurfiol, agos-atoch i gynulleidfaoedd rhyngwladol ac i gynulleidfaoedd lleol, gwledig sy’n aml yn ynysig.

Bugail a bardd sy’n byw ym Mro Ddyfi yw Sam Robinson. Mae hefyd yn gwneud seidr ac yn chwarae’r bodhrán.

Mae Delyth Jenkins yn chwarae’r delyn Geltaidd. Gyda nifer o albymau i’w henw, fel aelod o grwpiau amrywiol ac fel unawdydd, mae hi wedi teithio’n helaeth ym Mhrydain, Ewrop ac America.